Gaius Suetonius Paulinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Tra'r oedd Paulinus yng Nghymru, manteisiodd llwyth yr [[Iceni]] ar y cyfle i wrthryfela dan eu brenhines [[Buddug]]. Cipiasant y ''[[colonia]]'' Rhufeinig [[Camulodunum]] ([[Colchester]]) a gorchfygasant leng dan arweiniad [[Petillius Cerialis]] legion routed. Dychwelodd Paulinus i Londinium ([[Llundain]]). Yr oedd yr Iceni a'u cyngheiriaid ar eu ffordd tua'r ddinas, ac nid oedd byddin Paulinus yn ddigon mawr i'w hamddiffyn, felly gorchymynodd i bawb a fedrai ei gadael. Distrwyiwyd y ddinas a dinas Verulamium ([[St Albans]]) gan fyddin Buddug.
 
Ffurfiodd Paulinus fyddin yn cynnwys y lleng [[Legio XIV Gemina|XIV ''Gemina'']], rhan o'r ''[[Legio XX Valeria Victrix|XX Valeria Victrix]]'' a milwyr cynorthwyol. Yr oedd wedi gyrru neges i [[Legio II Augusta|II ''Augusta'']], oedd yn Isca Dumnoniorum ([[ExeterCaerwysg]]) ar y pryd, ond gwrthododd ei phennaeth ymateb i'r alwad. Yr oedd gan Paulinus fyddin o tua 10,000, tra roedd gan Buddug 100,000 yn ôl Tacitus a 230,000 yn ôl [[Dio Cassius]]). Bu brwydr yn rhywle ar hyd ffordd Rufeinig [[Stryd Watling]]. Enillodd Paulinus y fuddugoliaeth, a bu lladdfa enfawr ymysg y Brythoniaid. Lladdodd Buddug ei hun.
 
Wedi derbyn atgyfnerthiad o [[Germania]] aeth Paulinus ati i gosbi'r brodorion am y gwrthryfel, ond adroddodd y [[procurator]], [[Gaius Julius Alpinus Classicianus]], i'r ymerawdwr [[Nero]] fod agwedd Paulinus tuag atynt yn debyg o fagu drwgdeimlad ac arwain at wrthryfel pellach. Penderfynwyd symud Paulinus o'i swydd fel llywodraethwr, a daeth [[Publius Petronius Turpilianus]] yn llywodraethwr yn ei le.