Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 15:
Roedd [[Iolo Morganwg]] wedi sefydlu [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain]] yn [[1792]]. Fel y tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr orsedd i'w chysylltu fwy-fwy gyda hi, gan gychwyn gydag [[Eisteddfod Caerfyrddin 1819]], nes datblygu yn rhan o seremonïau'r eisteddfod fwy neu lai fel y mae heddiw. Yr orsedd sydd yn gyfrifol am seremonïau cadeirio a choroni'r bardd yn ogystal â chyflwyno'r Fedal Ryddiaith. Ailwampiodd yr Archdderwydd [[Geraint Bowen]] tipyn ar y seremonïau, er enghraifft diddymu Seremoni'r Cymry Ar Wasgar' a dod â'r brodyr Celtaidd i mewn i rai o'r prif seremonïau. Mae aelodau'r orsedd yn rhannu'n dri grŵp gyda lliw gwahanol i wisg bob un.
 
Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos lawn gyntaf mis [[Awst]], yn y de a'r gogledd bob yn ail. Mae maes yr Eisteddfod yn mesur oddeutu 15 i 18 erw. Ar wahan i'r pafiliwn mawr, bydd y Babell Len, y Babell Ddawns, Pabell y Cymdeithasau, y lle celf a bydd stondinau gan gymdeithasau gwirfoddol, megis yr Urdd, Merched Wawr, y pleidiau gwleidyddol a busnesau.
 
Yn y gorffennol, roedd Saesneg yn rhan o'r gweithgareddau a chlywid hi hyd yn oed ar lwyfan yr Eisteddfod ei hun. Nododd y cyfansoddiad newydd ym [[1952]] mai iaith swyddogol yr eisteddfod oedd y [[Gymraeg]] yn unig, ac roedd [[Albert Evans Jones|Cynan]] yn flaenllaw yn y gwaith o gadw'r eisteddfod yn uniaith Gymraeg.