Mudiad Ysgolion Meithrin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
tacluso trefn erthygl, hebgor datganiadau anwyddoniadurol.
Llinell 1:
[[Delwedd:Soapbubbles-SteveEF.jpg|bawd|Dde|350px|''Pan feddwn dalent plentyn...]]''
Mudiad a ffurfiwyd yn [[1971]] gyda'r amcan o sefydlu ysgolion meithrin [[Cymraeg]] led-led Cymru a hyrwyddo [[ysgol feithrin|addysg feithrin]] yn yr iaith yw'r '''Mudiad Ysgolion Meithrin'''. Yn sgîl hyn, mae'n cyfrannu'n helaeth at yr ymdrech i adfywio'r iaith.
 
==Hanes==
Er y cynhaliwyd dosbarthiadau meithrin Cymraeg gwirfoddol yn gyntaf yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] ac yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]] yn 1943, ac yna yn y Barri yn 1951, prin fu'r ysgolion meithrin yng Nghymru cyn y 1970au. Erbyn 1981 roedd 350 o gylchoedd meithrin a 40 o gylchoedd Ti a Fi yn bodoli ar hyd a lled Cymru. Fe gefnogwyd y twf hwn gyda ystadegau cyfrifiad 1981, lle nodwyd fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr oedran 3-4 oed wedi cynyddu o 11.3% i 13.3%. Cafwyd cynnydd graddol yn y canran yma ym mhob degawd ers hynny a braf nodi yng Nghyfrifiad 2011 roedd y ffigwr wedi cynyddu’n sylweddol yn y degawd olaf i 23.3% o blant 3-4 oed yn gallu siarad Cymraeg. Heb os, mai’r gwaith caled a wnaed yn y cylchoedd meithrin a’r cylchoedd Ti a Fi dros y blynyddoedd wedi cyfrannu’n helaeth at sicrhau’r cynnydd yma.
 
Mabwysiadodd y mudiad gynllun drws agored, reit o'r cychwyn, gan dderbyn plant o gartrefi di-Gymraeg yn ogystal â chartrefi Cymraeg er mwyn boddi'r di-Gymraeg yn y Gymraeg. Yr un pryd, sicrhawyd nifer o ffynonellau nawdd megis y [[Swyddfa Gymreig]] (llywodraeth [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] erbyn hyn.
 
==Proseictau eraill==
Cafywd cysylltiad clos rhwng y mudiad a'r cylchoedd 'Ti a Fi' a hefyd gyda'r gwasanaethau anghenion arbennig.