Adamnán: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolenni wici
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Roedd '''Adamnán''' (c.[[624]]-[[704]]) yn [[eglwys]]wr o [[Gwyddelod|Wyddel]] ac yn awdur yn yr iaith [[Lladin|Ladin]].
 
Adamnán oedd nawfed [[abad]] [[Abaty]] [[Iona]], yng ngorllewin yr [[yr Alban]], rhwng [[679]] a'i farwolaeth yn 704.
 
Yn ystod ei amser yn Iona ysgrifennodd y ''[[Vita Columbae]]'', [[Buchedd|buchedd]] Ladin y sant [[Colum Cille]] (Columba), sylfaenydd Abaty Iona. Mae'n destun pwysig o safbwynt ei werth llenyddol a hanesyddol.
 
Mae Adamnán ei hun yn wrthrych buchedd [[Gwyddeleg|Wyddeleg]] o ail hanner y [[10fed ganrif]], sef ''Betha Adamnán'', sy'n ei borteadu fel [[sant]] yn gwneud miraglau[[miragl]]au ac yn gwrthwynebu rheolwyr seciwlar, ond nid oes iddi lawer o werth hanesyddol.
 
Mae gweithiau eraill amdano yn cynnwys ''Fís Adamnán'' (Gweledigaeth Adamnán), testun Gwyddeleg o'r [[9fed ganrif]] neu ddechrau'r [[10fed ganrif]]. Ynddo mae [[angel]] yn tywys [[enaid]] yr abad trwy amryfal ardaloedd yr [[Annwfn|Isfyd]].
 
Mae testun Cyfraith Wyddelig ''Cáin Adamnán'' yn dyddio o'r cyfnod ar ôl marwolaeth Adamnán. Ei brif bwnc yw troseddau yn erbyn merched, plant ac egwlyswyreglwyswyr.
 
==Ffynhonnell==