John Jones (seryddwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

gweithiwr, serydd, ac ieithydd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Llechen goffa John Jones Seryddwr ac ieithydd Cymreig ...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 00:24, 21 Tachwedd 2013

Seryddwr ac ieithydd Cymreig oedd John Jones (1818 - 1898), a adnbyddid hefyd fel John Jones y Sêr neu Ioan Bryngwyn Bach (enw barddol). Roedd yn ŵr hunanddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf Llanidan, Ynys Môn.[1]

Llechen goffa John Jones

Bywgraffiad

Gweithiwr oedd John Jones ar hyd ei oes o ran alwedigaeth. Cafodd ei eni yn y Bryngwyn Bach ger Dwyran, Sir Fôn, yn 1818. Ychydig o addysg elfennol yn unig a gafodd yn blentyn. Cafodd waith fel gwas fferm ac yn 1848 aeth i weithio fel llwythwr llechi ym Mhorth Penrhyn ger Bangor.[2]

Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am seryddiaeth - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y Beibl gan ddod i fedru darllen Groeg a Hebraeg. Gwnaeth dau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.[3]

Daeth i amlygrwydd pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur Samuel Smiles, a fu'n enwog am ei lyfrau fel Self-Help, a ymwelodd ag ef ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol Men of Men of Invention and Industry (1884).[4]

Bu farw ym Mangor yn 1898.[5]

Llyfryddiaeth

  • Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones.
  • Samuel Smiles, Men of Men of Invention and Industry (Llundain, 1884)

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Ar-Lein
  2. Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.
  3. Y Bywgraffiadur Ar-Lein
  4. Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.
  5. Y Bywgraffiadur Ar-Lein