John Jones (seryddwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Llechen goffa John Jones Seryddwr ac ieithydd Cymreig ...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Memorial to an Astronomer, John Jones Y Sêr. - geograph.org.uk - 144089.jpg|250px|bawd|Llechen goffa John Jones]]
Seryddwr ac ieithydd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''John Jones''' ([[1818]] - [[1898]]), a adnbyddid hefyd fel '''''John Jones y Sêr''''' neu '''''Ioan Bryngwyn Bach''''' ([[enw barddol]]). Roedd yn ŵr hunanddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf [[Llanidan]], [[Ynys Môn]].<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-JHN-1818.html Y Bywgraffiadur Ar-Lein]</ref>
 
==Bywgraffiad==
Llinell 7:
Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am [[seryddiaeth]] - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y [[Beibl]] gan ddod i fedru darllen [[Groeg]] a [[Hebraeg]]. Gwnaeth dau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-JHN-1818.html Y Bywgraffiadur Ar-Lein]</ref>
 
Daeth i amlygrwydd pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur [[Samuel Smiles]], a fu'n enwog yn ail hanner y 19eg ganrif am ei lyfrau "dod ymlaen" fel ''Self-Help'', a ymwelodd ag ef ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol ''Men of Men of Invention and Industry'' (1884).<ref>Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', ''Y Geninen'' (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.</ref>
 
Bu farw ym Mangor yn 1898.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-JHN-1818.html Y Bywgraffiadur Ar-Lein]</ref>