John Jones (seryddwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 3:
 
==Bywgraffiad==
Gweithiwr oedd John Jones ar hyd ei oes o ran ei alwedigaeth. Cafodd ei eni yn y Bryngwyn Bach ger [[Dwyran]], Sir Fôn, yn 1818. Ychydig o addysg elfennol yn unig a gafodd yn blentyn. Cafodd waith fel gwas fferm ac yn 1848 aeth i weithio fel llwythwr llechi ym [[Porth Penrhyn|Mhorth Penrhyn]] ger [[Bangor]].<ref>Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', ''Y Geninen'' (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.</ref>
 
Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am [[seryddiaeth]] - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y [[Beibl]] gan ddod i fedru darllen [[Groeg]] a [[Hebraeg]]. Gwnaeth dauddau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-JHN-1818.html Y Bywgraffiadur Ar-Lein]</ref>
 
Daeth i amlygrwydd ar draws gwledydd Prydain pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur [[Samuel Smiles]], a fu'n enwog yn ail hanner y 19eg ganrif am ei lyfrau "dod ymlaen" poblogaidd fel ''Self-Help'', a ymwelodd ag ef ym Mangor ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol ''Men of Men of Invention and Industry'' (1884).<ref>Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', ''Y Geninen'' (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.</ref>
 
Bu farw ym Mangor yn 1898.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-JHN-1818.html Y Bywgraffiadur Ar-Lein]</ref>