Joseph Loth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
+interwici Ffr
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ysgolhaig [[Celtiaid|Celtaidd]] ac [[ieithyddiaeth|ieithydd]] o [[Llydawyr|Lydawr]] oedd '''Joseph Loth''' ([[27 Rhagfyr]], [[1847]] - [[1 Ebrill]]. [[1934]]). Roedd yn frodor o [[Guémené-sur-Scorff]], [[Llydaw]]. Roedd yn ddisgybl i [[d'Arbois de Jubainville]].
 
Ar ôl cyfnod fel darlithydd ym Mhrifysgol [[Prifysgol Rennes|Mhrifysgol Rennes]] bu'n athro yn y ''Collège de France'', [[Paris]] hyd ei ymddeoliad yn [[1930]]. Cyfranodd nifer o erthyglau a llyfrau ar yr [[ieithoedd Celtaidd]] a [[llenyddiaeth]] Geltaidd, yn arbennig [[llenyddiaeth Lydaweg]] a [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Bu'n olygydd y cylchgrawn ''Revue Celtique''.
 
Fe'i cofir yn bennaf yng Nghymru am ei gyfieithiad o'r [[Mabinogion]] i'r [[Ffrangeg]] ([[1889]]), sy'n glasur i'w gymharu â chyfieithiad yr Arglwyddes [[Charlotte Guest]] i'r [[Saesneg]], a'i astudiaeth o [[mydryddiaeth|fydryddiaeth]] [[Cymraeg Canol]] ''La Métrique Galloise'' ([[1900]]-[[1902]]).