Palaeograffeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Paleograffeg''' (o'r Saesneg ''palaeography'', o'r gair Groeg ''παλαιός'' 'palaiós', "hen" a ''γράφειν'' 'graphein', "ysgrifennu") yw gwyddor hen [[llawysgr...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Paleograffeg''' (o'r [[Saesneg]] ''palaeography'', o'r gair [[Groeg]] ''παλαιός'' 'palaiós', "hen" a ''γράφειν'' 'graphein', "ysgrifennu") yw gwyddor hen [[llawysgrifen|lawysgrifen]], [[llawysgrif]]au ac [[arysgrif]]au, yn annibynnol ar yr iaith ei hun (e.e. [[Lladin]], [[Cymraeg Canol]]. Fel rheol mae paleograffeg cyn golygu astudio'r llawysgrifennau a geir mewn llawysgrifau Ewropeaidd a Chlasurol (yn y gwyddorau sy'n tarddu o'r gwyddorau Groeg a Lladin).
 
Ar sawl ystyr mae palaeograffeg yn hanfodol ar gyfer [[ieitheg]], ac yn wynebu dau brif anhawster: yn gyntaf, gan fod arddull unrhyw un wyddor yn newid yn gyson o gyfnod i gyfnod (e.e. llythrennau [[Carolingiaidd]], [[Gothig]], etc.), mae'n rhaid gwybod sut i ddehongli'r arwyddion hynny yn iawn. Yn ail, mae'n arferol defnyddio byrfoddau, neu arwyddion byrfoddol, mewn hen lawysgrifau er mwyn arbed lle (roedd y deunydd yn brin a drud): felly rhaid i'r palaeograffydd wybod y byrfoddau hyn.