Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Geiriadur Cymraeg yw'r '''''Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex''''' neu'r '''''Dictionarum Duplex''''' ("''Y Geiriadur Dyblyg''")...'
 
Llinell 2:
 
==Cynnwys==
Prif ran y gyfrol yw geiriadur [[Cymraeg]]-[[Lladin]] John Davies ei hun. Yn yr ail ran ceir talfyriad y Dr Davies o eiriadur Lladin-Cymraeg yr ysgolhaig [[Thomas Wiliems]] o [[Trefriw|Drefriw]] sy'n seiliedig ar eiriadur [[llawysgrif]] Thomas Wiliems ''Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ'' (sydd ar gael yn Adran Llawysgrifau [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] erbyn hyn).<ref>Thomas Parry, ''Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).</ref> Seilir geiriadur Wiliems yn ei dro ar waith [[Thomas Thomas]], printiwr cyntaf [[Prifysgol Caergrawnt]], ''Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae''.
 
Ar ddiwedd y llyfr ceir casgliad o [[Dihareb|ddiharebion Cymraeg]] a gasglwyd gan y Dr Davies ei hun.<ref>Thomas Parry, ''Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).</ref>