Hizb al-Nahda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rotlink (sgwrs | cyfraniadau)
B deadlink fix: content removed from google cache, found on web archive
B Tunisia → Tiwnisia
Llinell 1:
:''Erthygl am y blaid wleidyddol yw hon; am y mudiad diwylliannol gweler [[al-Nahda]].''
[[Plaid wleidyddol]] [[Islam]]ig waharddedig yn [[TunisiaTiwnisia|Nhiwnisia]] yw '''Hizb al-Nahda''' neu '''Hizb Ennahda''' ([[Arabeg]] النهضة "Plaid y Dadeni"; [[Ffrangeg]], ''Parti de la Renaissance''). Ei llywydd presennol, mewn alltudiaeth, yw [[Rached Ghannouchi]].
 
[[Delwedd:Nahdha logo.gif|200px|bawd|Arwyddlun Hizb al-Nahda]]
Cafodd ei sefydlu yn wreiddiol dan yr enw ''Action islamique'', wedyn newidiodd ei henw i Fudiad y Tuedd Islamig, ac wedyn yn [[1989]] i ''Hizb al-Nahda''.<ref>''Columbia World Dictionary of Islamism'', Olivier Roy a Antoine Sfeir, gol., 2007, tt.354-5</ref> Er iddynt ar y dechrau arddel syniadau [[Sayyid Qutb]] a [[Maududi]], o'r 1980au ymlaen dechreuasant eu disgrifio eu hunain fel "plaid Islamig gymhedrol". Dywedant eu bod o blaid [[democratiaeth]] a ffurf "TunisiaiddDiwnisaidd" ar [[Islamiaeth]] a fyddai'n cydnabod [[lluosogaeth wleidyddol]]. Galwant hefyd am drafod gyda'r [[Y Gorllewin|Gorllewin]]. Fodd bynnag, maent yn gwrthod syniadau arferol y Gorllewin am natur democratiaeth ryddfrydig ac am weld [[cyfansoddiad]] gwaelodol Islamaidd yn lle'r un [[seciwlariaeth|seciwlar]] presennol yn TunisiaNhiwnisia. Mae rhai wedi cyhuddo un o'i phrif arweinwyr, [[Rashid Al-Ghannushi]], o fod a hanes o gefnogi trais, ac eto y prif gyhuddiad yn ei erbyn gan [[llywodraeth TunisiaTiwnisia]] oedd trefnu plaid wleidyddol anghyfreithlon.
 
Ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r ddegawd olynol cyhoeddai'r blaid bapur newydd anghyfreithlon, ''Al-Fajr''. Cafodd golygydd ''Al Fajr'', Hamadi Jebali, ei ddeddfrydu i 16 mlynedd o garchar yn [[1992]] am berthyn i grŵp gwaharddedig ac am "gynllwynio trais gyda'r bwriad o newid natur y [[gwladwriaeth|wladwriaeth]]." Caniatawyd i aelodau o Al Nahda sefyll yn etholiadau [[1989]] ond cafodd y mudiad ei wahardd yn llwyr yn [[1991]]. Credir fod yr orsaf teledu [[Arabeg]] ''El Zeitouna'' yn gysylltiedig ag al-Nahda.
 
Cafodd canoedd o aelodau a chefnogwyr y blaid eu harestio a charcharu. Ar [[27 Chwefror]] [[2006]], fel rhan o [[amnesti]] cyffredinol i [[carcharor gwleidyddol|garcharorion gwleidyddol]], rhyddhawyd nifer o'r carcharorion hyn ar orchymyn [[Zine Abedine Ben Ali]], LlywyddArlywydd TunisiaTiwnisia.<ref>[http://www.nawaat.org/forums/index.php?showtopic=10727&pid=33142&mode=threaded&show=&st=& Erthygl ar www.nawaat.org]</ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 17:
* {{eicon en}} [http://web.archive.org/web/20030625132727/http://www.biu.ac.il/SOC/besa/meria/journal/1998/issue2/sivan.pdf Erthygl gan Emmanuel Sivan] Ffeil [[PDF]]
 
[[Categori:Gwleidyddiaeth TunisiaTiwnisia]]
[[Categori:Pleidiau gwleidyddol]]
[[Categori:Islamiaeth]]