Hanes Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 11:
Parhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y [[19eg ganrif]]. Bu hefyd ymgyrchoedd am hunanlywodraeth trwy ddulliau seneddol, ac yn y 1870au daeth hyn yn bwnc llosg trwy ymdrechion [[Charles Stewart Parnell]]. Cyflwynodd y prif weinidog Prydeinig [[William Ewart Gladstone]] ddau fesur i roi hunanlywodraeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, ond gorchfygwyd hwy yn Nhy'r Cyffredin. Yn [[1910]] roedd y blaid Wyddelig dan [[John Redmond]] mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Rhoddodd dechreuad y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] yn [[1914]] derfyn ar y mesur am y tro.
 
Yn [[1916]] bu gwrthryfel arall, [[Gwrthryfel y Pasg]], gydag ymladd ffyrnig yn ninas [[Dulyn]] dros wythnos y [[Pasg]]. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y fyddin Brydeinig a dienyddiwyd nifer o'r arweinwyr, yn cynnwys [[Padraig Pearse]] a [[James Connolly]]. Fodd bynnag, trodd hyn lawer o boblogaeth Iwerddon o blaid annibyniaeth lwyr. Llai na thair blynedd yn ddiweddarach, roedd llawer o'r rhai a datblygoddgymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y [[Dáil Cyntaf]] yn [[1919]], yn eu plith [[Éamon de Valera]] a [[Michael Collins]]. Datblygodd brwydrorhyfel rhwng [[Byddin Weriniaethol Iwerddon]] (yr I.R.A) a'r fyddin Brydeinig a'i hunedau cynorthwyol megis y "Black and Tans". Roedd [[Michael Collins]] yn arbennig o amlwg yn yr ymgyrch am annibyniaeth. Yn [[1922]] arwyddwyd cytundeb i roi annibyniaeth i 26 o siroedd Iwerddon, gyda chwech sir yn y gogledd-ddwyrain, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn Brotestaniaid, yn parhau yn ran o'r Deyrnas Unedig.
 
Gweler hefyd: