John Tudor Jones (John Eilian): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 11:
==Newyddiaduraeth==
Ar ôl ymadael a Phrifysgol
Wrth weithio ar y Western Mail daeth Jones yn gyfeillgar a'r bardd a newyddiadurwr [[Caradog Pritchard]]; perswadiodd Pritchard iddo symud i [[Stryd y Fflyd]], [[Llundain]] ym [[1927]] i weithio ar y [[Daily Mail]]. Yn ystod ei gyfnod yn Llundain dechreuodd cyhoeddi misolyn Cymraeg poblogaidd [[Y Ford Gron]]. Jones ei hun oedd perchennog Y Ford Gron yn wreiddiol ac yr oedd yn ei baratoi a'i olygu o'i gartref yn Llundain. Ar ôl i'r cylchgrawn profi mor boblogaidd gwerthodd Jones y teitl i'r argraffwyr [[Hughes a'i Fab]] a symudodd i [[Wrecsam]] i weithio fel golygydd llawn amser ar y cylchgrawn.
Llinell 28:
Ym 1953 symudodd yn ôl i ogledd Cymru lle dreuliodd chwarter canrif olaf ei yrfa fel prif olygydd papurau cwmni'r [[Herald]] yng Nghaernarfon<ref>http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/enwogion/llen/pages/john_eilian.shtml adalwyd Rhagfyr 3 2013</ref>, y cwmni oedd yn cyhoeddi [[Yr Herald Gymraeg]], Y [[Caernarfon and Denbigh Herald]] a'r [[Holyhead and Anglesey Mail]].
==Bardd a Llenor==
Yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth daeth John Eilian yn gyfaill â [[Prosser Rhys]] golygydd [[Y Faner]] a oedd yn cael ei gyhoeddi yn [[Aberystwyth]] ar y pryd a chyhoeddodd y ddau cyfrol o farddoniaeth ar y cyd, ''Gwaed Ifanc'', a oedd yn cael ei hystyried yn llyfr gwefreiddiol a chwyldroadol, ar y pryd. <ref> Y Bywgraffiadur ar lein ''Rhys, Prosser'' http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-RHYS-PRO-1901.html adalwyd 2 Rhag 2013</ref>
Tra' n golygu'r Cymro a'r Ford Gron yr oedd Jones yn gyfrifol am olygu cyfres o lyfrau bach o glasuron barddol a llenyddol Cymru i gwmni Hughes a'i Fab o'r enw Llyfrau'r Ford Gron yn ogystal â golygu'r gyfres fe bu'n awdur rai o'r cyfrolau, er enghraifft y gyfrol am Hanes a Gwaith [[Owen Morgan Edwards| Syr O M Edwards]]. Cyfieithodd bedair stori i blant i'r Gymraeg ar gyfer cwmni Harrap yn 1953 - Robin Hood, Y Brenin Arthur, Ali Baba a Siân D'Arc. <ref> http://darganfod.llgc.org.uk/default.ashx?q=John+Tudor+Jones adalwyd Rhag 2 2013</ref>
Cyfieithodd a chyfansoddodd dros 80 o gerddi i'w gosod i gerddoriaeth a gyhoeddwyd gan gwmni [[Cwmni Cyhoeddi Gwynn| W S Gwynn Williams]] gan gynnwys gweithiau clasurol megis oratorio [[George Frideric Handel| Handel]] Judas Maccabaeus, caneuon gwerin megis ''Hey ho, to the greenwood'' [[William Byrd]] ac ychwanegu penillion i hen ganeuon Gymraeg megis ''Bwthyn fy Nain''.
Enillodd John Eilian y Gadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bae Colwyn 1947]] a'r Goron yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dolgellau 1949]].
==Gwleidyddiaeth==
==Cyfeiriadau==
|