John Tudor Jones (John Eilian): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 13:
Ar ôl ymadael a Phrifysgol aeth John Eilian i weithio fel cyw newyddiadurwr ar Y [[Western Mail]] yng Nghaerdydd a fu yno am tua thair blynedd. Ei swydd gyntaf ar y Mail oedd ymweld ag ardal [[Rhydlewis]] er mwyn profi anwiredd honiadau [[Caradoc Evans]] yn ei lyfr enwog ''My People'' am anfoesoldeb a rhagrith pobl yr ardal.<ref> John Harris ''Caradoc Evans: My People Right Or Wrong'' yn Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion - 1995 (Fersiwn ar-lein http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1386666/llgc-id:1424716/llgc-id:1424869/getText )</ref>
 
Wrth weithio ar y Western Mail daeth Jones yn gyfeillgar a'r bardd a newyddiadurwr [[Caradog Pritchard]]; perswadiodd Pritchard iddo symud i [[Stryd y Fflyd]], [[Llundain]] ym [[1927]] i weithio ar y [[Daily Mail]]. Yn ystod ei gyfnod yn Llundain dechreuodd cyhoeddi misolyn Cymraeg poblogaidd [[Y Ford Gron]]. Jones ei hun oedd perchennog Y Ford Gron yn wreiddiol ac yr oedd yn ei baratoi a'i olygu o'i gartref yn Llundain. Ar ôl i'r cylchgrawn profi mor boblogaidd gwerthodd Jones y teitl i'r argraffwyr [[Hughes a'i Fab]] a symudodd i [[Wrecsam]] i weithio fel golygydd llawn amser ar y cylchgrawn.
 
Ym [[1932]] prynodd Hughes a'i fab yr hawl ar enw [[Y Cymro]] fel teitl ar bapur newydd. Cyhoeddwyd papur o'r enw’r Cymro gan gwmni Evans yn [[Dolgellau| Nolgellau]] yn y 1920au, doedd Hughes a'i Fab dim am barhau a'r hen gyhoeddiad - dim ond cael yr hawl i ddefnyddio'r enw ar gyfer papur newyddion cenedlaethol newydd spon. Pan gyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r papur John Eilian oedd ei olygydd.
 
Gan nad oedd cylchrediad Y Cymro cystal ag yr oedd ei gyhoeddwyr yn eu disgwyl, penderfynodd [[Rowland Thomas]], perchennog Hughes a'i Fab uno Y'r Cymro efo'r Ford Gron a oedd a chylchrediad iachach. Achosoddachosodd hyn anghydfod rhwng Thomas a Jones ac fe ymadawodd Jones a'r cwmni ym 1935.
 
Wedi ymadael a'r Cymro a'r Ford gron aeth Jones i [[Colombo]] yn olygydd [[The Times of Ceylon]] ac i roi cymorth i sefydlu gorsaf radio cenedlaethol cyntaf y wlad. Wedi cyfnod yn [[Ceylon]] aethai i'r [[Dwyrain Canol]] lle fu'n olygydd i'r [[Macedonian Times]] a'r [[Iraq Times]].
 
Dychwelodd i Gymru i fod yn Bennaeth Rhaglenni'r [[BBC]] yng Nghaerdydd ac yn ystod yr [[Ail Rhyfel Byd]] symudodd i Lundain i redeg [[Adran Dramor y BBC]], swydd hynod bwysig o ystyried y sefyllfa ryngwladol.
 
Yn ystod cyfnod y rhyfel adferwyd y perthynas rhwng Jones a Hughes a'i Fab a bu Jones yn cyfrannu erthyglau cefnogol i'r rhyfel a'r llywodraeth i'r Cymro o dan yr enw Robin Bwrgwyn, fel ymateb i golofn llawer llai taeog [[Cwrs y Byd]] [[Saunders Lewis]] yn [[Y Faner]].