Caer Gybi (caer): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5016868 (translate me)
tacluso, delweddau
Llinell 1:
[[Delwedd:Roman Wall around the site of St Cybi's Church - geograph.org.uk - 1414149.jpg|250px|bawd|Caer Gybi: tu mewn i'r gaer]]
[[Delwedd:Roman fort at Holyhead - geograph.org.uk - 1367143.jpg|250px|bawd|Caer Gybi: rhan o furiau'r gaer]]
Roedd '''Caer Gybi''' yn gaer [[Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] sydd yn awr yng nghanol tref [[Caergybi]], sy'n cymeryd ei henw o'r gaer.
 
==Disgrifiad a hanes==
Mae'r gaer ar lechwedd creigiog uwchben y môr, gyda muriau ar dair ochr a'r traeth ar y bedwaredd ochr, yn ffurfio hirsgwar 75 medr wrth 45 medr. Credir ei bod yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif. Credir bod y gaer yma at ddefnydd y llynges Rufeinig.<ref>''A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd'' (HMSO, 1995).</ref>
 
Ym muchedd Sant [[Cybi]] mae cyfeiriad at frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], [[Maelgwn Gwynedd]], yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu [[clas]] (mynachlog). Bellach mae [[eglwys]] y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r muriau yn dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr.<ref>''A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd'' (HMSO, 1995).</ref>
 
==Cadwraeth==
Mae'r safle yng ngofal [[CADW]] ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr [[heneb]] hon gyda'r rhif SAM unigryw: AN031.<ref>[http://www.whatdotheyknow.com/request/15714/response/38315/attach/html/2/SAMs%20by%20UA.xls.html Cofrestr Cadw.]</ref>