Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1978: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Printiau'r Cyhoeddi
Llinell 22:
 
==Printiau'r Cyhoeddi==
Cynhyrchwyd y cyfres Printiau’r Cyhoeddi gan artistiaid y brifddinas nôl yn 1977 er mwyn dathlu dyfodiad y Brifwyl i Gaerdydd y flwyddyn ganlynol. Comisynwyd y gwaith gyda chymorth [[Cyngor Celfyddydau Cymru]] ac roedd y printiau i’w gwerthu er mwyn codi arian tuag at wobrau celf weledol y Brifwyl. Yr amcan ar y pryd oedd cynhyrchu cyhoeddiad cyfyngedig o 35 print gan bob un artist, a oedd un ai’n byw neu’n gweithio yng Nghaerdydd, neu â chysylltiad â’r Ysgol Gelf.
 
Mae’r casgliad yn cynnwys gwaith [[argraffu sgrîn]] [[sidan]], [[lithograffi]] ac [[ysgythru]] gan yr artisitiad canlynol:Mervyn Baldwin, Paul Beauchamp, Paul Brewer, Evan Charlton, Felicity Charlton, Barrie Cook, Michael Crowther, Geoff Davies, Hugh Evans, Linda Evans, Russell Greenslade, Harry Holland, Tom Hudson, Phil Jennings, Glyn Jones, Eliseo Lagana, Eric Malthouse, Arthur Miles, David Miller, Beverley Napp, Philip Nicol, Chris Orr, Terry Setch, Chris Shurrock a Jeffrey Steele.
 
Aeth dau o’r cyfranogwyr, Paul Brewer a Phil Nicol ymlaen i ennill [[Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain]] yn yr Eisteddfod Genedlaethol a dau arall Terry Setch a Chris Orr bellach yn aelodau o’r [[Yr Academi Frenhinol|Academi Frenhinol]] yn Llundain.