Surop: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 36 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6584340 (translate me)
 
Llinell 7:
Gwneir [[triagl]] (neu driog) trwy goethi siwgr o'r [[cansen siwgr|gansen]]. Mae gan y surop trwchus a thywyll a elwir yn [[triagl du|driagl du]] flas chwerw yn debyg i [[licris]].<ref name=FE-411>''Food Encyclopedia'', t. 411.</ref> Ceir math arall o driagl, yn drwchus ond yn felyn-aur ei liw ac â blas melys iawn, o'r enw [[triagl melyn]]. Gellir ei arllwys dros fwydydd neu ei ddefnyddio mewn cymysgeddau [[teisen]]ni a [[bisged]]i, ac i wneud [[saws]]iau megis [[menyn caramel]].<ref name=FE-410>''Food Encyclopedia'', t. 410.</ref>
 
Daw [[surop corn]] o [[blawd corn|flawd corn]], a chanddo flas sydd fymryn yn felys.<ref name=FE-410/> Cynhyrchir surop masarn yng Nghanada a gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau trwy dapio'r [[masarnen|fasarnen]] am ei sudd, a'i ferwi gan adael surop. Gwneir [[surop palmwydd]], sy'n boblogaidd yn y Dwyrain Canol, India, a De America, drwy broses debyg. Rhoddir surop palmwydd mewn [[siytni]] yn ogystal â theisenni a bisgedi. Un o'r suropau mwyaf cyffredin a ddaw o rawn yw [[surop heiddfrag]] (neu rhin frag) a gynhyrchir drwy fragu grawn [[haidd]] a'u berwi i greu'r surop tewychedig. Mae ganddo flas brag arbennig, ac fe'i gymysgir ag [[ysgytlaeth]]au a diodydd poeth yn ogystal â bwydydd melys.<ref name=FE-411/>
 
Ceir hefyd "suropau [[tafarn|bar]]" i wneud diodydd cymysg a [[coctel|choctels]]. Gwneir surop siwgr syml trwy hydoddi siwgr mewn dŵr (yn aml dwy ran o siwgr i un ran o ddŵr),<ref>''The Bartender's Book'' (Caerfaddon, Parragon, 2008), t. 77.</ref> a'i ychwanegu at ddiodydd i'w melysu.<ref>Halley, Ned. ''The Wordsworth Ultimate Cocktail Book'' (Ware, Wordsworth, 1998), tt. 295&ndash;6.</ref> Surop di-alcoholig yw [[grenadin]] a wneir o [[pomgranad|bomgranad]], ac fe'i ddefnyddir i liwio coctels a rhoi iddynt flas melys.<ref>Halley, t. 293.</ref><ref>''The Bartender's Book'', t. 61.</ref>