Mecaneg cwantwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 32:
Nid esboniodd Bohr ddeilliad y cwanteiddiad hwn yn ei fodel ond ei lwyddiant oedd esbonio’r arsylwadau sbectrosgopaidd yn nhermau strwythur yr atom. Ac yn wir roedd ei fodel yn gweithio'n berffaith ar gyfer hydrogen.
 
===Deuoliaeth goleunigronyn-ton===
Pan mae ymbelydredd uwch-fioled yn cael ei ddisgleirio ar fetel mae electronau yn cael eu rhyddhau. O dan amledd penodol nid yw electronau yn cael ei ryddhau heb ots am danbeidrwydd y goleuni. Roedd hyn yn anghytuno gyda'r syniad a dderbyniasid am ganrifoedd bod goleuni wedi'i wneud o donau gan fod model o'r math yn rhagddweud y byddai unrhyw amledd yn arwain at allyriad electronau. Hynny yw yn ôl y tonfodel byddai'r electron yn "storio" egni o'r ton goleuni nes bod ei egni yn fwy nag egni ioneiddiad y metel.
 
Fe esboniwyd yr effaith ffotoelectrig gan [[Einstein]] a gynigodd bod goleuni wedi'i wneud o gronynnau a'u galwodd yn [[ffoton]]au. Yn seliedig ar waith Planck fe gynigodd bod egni ffoton yn gyfrannol ag amledd y don electromagnetaidd a gysylltir gyda'r ffoton, ''E'' = ''hf''. Mae'n debygol bod un ffoton yn gwrthdaro gydag un electron ac os mae ei egni cinetig yn fwy nag egni ioneiddio'r atom, caiff yr electron ei allyrru.
 
Roedd gwaith Einstein yn ddechrau'r cysyniad o ddeuoliaeth goleunigronyn-ton.
 
===Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg a Thonfecaneg Schrödinger===