Tiwnisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cyfeiriadau
Newid yr wyth olaf yn y rhestr i orgraff newydd wici, replaced: Tunisia → Tiwnisia (2) using AWB
Llinell 47:
}}
[[Delwedd:Tunisia sm03.png|260px|bawd|de|Map o Diwnisia]]
Gwlad [[Y Byd Arabaidd|Arabaidd]] yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]], sy'n gorwedd rhwng [[Algeria]] yn y gorllewin a [[Libya]] yn y dwyrain, ac yn wynebu [[Sisili]] a de'r [[Yr Eidal|Eidal]] a [[Môr y Canoldir]] yn y gogledd yw '''Gweriniaeth Tiwnisia'''.<ref>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [TunisiaTiwnisia].</ref> Ei phrifddinas yw [[Tiwnis]].
 
== Daearyddiaeth ==
Llinell 53:
Lleolir Tiwnisia ar ran fwyaf gogleddol [[cyfandir]] [[Affrica]], ar ganol arfordir y gogledd. Ynys [[Sicilia]] yw'r tir [[Ewrop]]eaidd agosaf, 80&nbsp;km i'r gogledd-ddwyrain dros [[Culfor Sicilia|Gulfor Sicilia]]. Ar y tir [[Algeria]] a [[Libia]] yw ei chymdogion. Mae ganddi arfordir 1400&nbsp;km hir ac amrywiol ar y [[Môr Canoldir]].
 
[[Delwedd:Bizerte port.jpg|200px|bawd|chwith|Porthladd [[Bizerte]]]]Gydag arwynebedd tir o ddim ond 164,000&nbsp;km², TunisiaTiwnisia yw'r wlad leiaf yng Ngogledd Affrica. Mae'n mesur 750&nbsp;km o'r anialwch yn y de i'r [[Cap Blanc]], pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica, yn y gogledd, ond dim ond 150&nbsp;km ar ei lletaf o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn dopograffyddol mae'r wlad yn ymrannu'n ddwy ardal; y gogledd mynyddig a'r de lled-wastad.
 
Y prif gadwyn mynydd yw'r [[Dorsal Tiwnisia|Dorsal]], sy'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir [[Mynyddoedd yr Atlas]] sy'n cychwyn ym [[Moroco]] yn [[Atlas Uchel]]. Mae'n rhedeg ar gwrs gogledd-ddwyreiniol o [[Tébessa]] ar y ffin ag [[Algeria]] hyd [[Zaghouan]] i'r de o [[Tiwnis|Diwnis]]. Mae'n cynnwys y pwynt uchaf yn y wlad, [[Jebel Chambi]] (1544m), i'r gorllewin o [[Kasserine]]. Mae'r Dorsal yn gorffen mewn cyfres o fryniau isel yng ngorynys [[Cap Bon]].
Llinell 71:
== Hanes ==
{{Prif|Hanes Tiwnisia}}
Mae gan Tiwnisia hanes hir a chyfoethog. [[Berberiaid]] oedd y trigolion brodorol. Glaniodd y [[Ffeniciaid]] yn yr wythfed ganrif CC a sefydlu dinas [[Carthago]] (Carthage) a dyfodd i fod yn un o ddinasoedd grymusaf yr [[Henfyd]] gyda thir a dinasoedd yn ei meddiant ar hyd arfordir y [[Maghreb]] ([[Moroco]] ac [[Algeria]] heddiw), yn [[Sisili]], [[Sardinia]] a'r [[Ynysoedd Balearig]] a dwyrain [[Sbaen]]. Yn Nhiwnisia ei hun roedd 'na ddinasoedd pwysig yn [[Utica]], [[Kerkouane]], Hadrametum ([[Sousse]] heddiw) a lleoedd eraill.
 
Yn yr olaf o'r tri [[Rhyfeloedd Pwnig|Rhyfel Pwnig]] syrthiodd Carthago a'i chwaer-ddinasoedd yn Nhiwnisia i ddwylo'r [[Rhufeiniaid]]. Daeth y rhan fwyaf o Diwnisia yn dalaith Rufeinig a elwid [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]] am mai [[Ifriquiya]] oedd yr enw brodorol am ogledd Tiwnisia gan y Berberiaid. Blodeuodd Carthago eto fel dinas Rufeinig a chodwyd nifer o ddinasoedd a threfi eraill sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd archaeolegol Rhufeinig gorau yn y byd heddiw, e.e. [[Dougga]], [[Bulla Regia]], [[El Djem]] a [[Sbeitla]].