Pont Llangollen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Pont Llangollen Saif '''Pont Llangollen''' ar Afon Dyfrdwy yn Llangollen,...'
 
Llinell 4:
 
==Hanes==
Cofnodir pont dros Afon Dyfrdwy yn Llangollen mor gynnar â 1282. Yn ôl yr hynafiaethydd o'r 18fed ganrif [[Thomas Pennant]] yn ei lyfr ''Tours in Wales'', codwyd y bont bresennol gan yr Esgob John Trefor tua diwedd y 14eg ganrif neu ddechrau'r 15fed.<ref>Helen Burnham, ''Clwyd and Powys'' (''A Guide to Ancient and Historic Wales''; HMSO, 1995).</ref> Roedd y John Trefor hwnhwnnw, yr ail o'r un enw i fod yn esgob [[Llanelwy]], yn un o gynghorwyr y Tywysog [[Owain Glyndŵr]] ac yn adnabyddus fel noddwr diwylliant Cymraeg.
 
Ceir peth ansicrwydd am oed y bont, ac mae'n bosibl hefyd ei bod yn dyddio o tua 1500 neu wedi cael ei hadnewyddu'n tua'r flwyddyn honno. Ond yn erbyn y ddamcaniaeth honno mai'r ffaith nad oedd yr hynafiaethydd [[John Leland]] yn yr 16eg ganrif yn meddwl ei bod yn adeiladwaith diweddar. Yn ôl pob tebyftebyg felly mae'n dyddio o ddiwedd y 14eg ganrif neu ddechrau'r 15fed ganrif. Mae hynafiaethydd arall, [[Edward Lhuyd]], yn cofnodi iddi gael ei hatgyweirio yn 1656.<ref>Helen Burnham, ''Clwyd and Powys'' (''A Guide to Ancient and Historic Wales''; HMSO, 1995).</ref>
 
Yn 1873 lledwyd un ochr ac ychwanegwyd pedwerydd arch i wneud lle i'r rheilffordd.<ref>Helen Burnham, ''Clwyd and Powys'' (''A Guide to Ancient and Historic Wales''; HMSO, 1995).</ref>