Chiricahua: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Dolenni allanol: ffynonellau a manion using AWB
Afghanistan i Affganistan; ond nid mewn Catss, replaced: Mexico → Mecsico (6) using AWB
Llinell 9:
[[Delwedd:Chiricahua Apache Hattie Tom.jpg|200px|bawd|Merch Chiricahua yn 1898]]
 
Yn 1872, sedfydlwyd y ''Chiricahua Apache Reservation'', ond ni fu'n agor ond am fwy na phedair blynedd. Erbyn 1877 roedd y mwyafrif o'r Apache wedi cael eu gorfodi i aros ar ddau ''reservation'' mawr yn Arizona. Yn 1883, ymladdodd y Chiricahua dan Geronimo ac eraill yng ngogledd MexicoMecsico, gan ddychwelyd i'r ''reservation'' y flwyddyn ganlynol. Ond torrodd Geronimo a grŵp bychan o ryfelwyr, merched a phlant - Chiricahua yn bennaf - yn rhydd eto a sefydlodd noddfa ym mynyddoedd y [[Sierra Madre]], ym MexicoMecsico. Ar ôl i'r grwp gael eu hel gan dros 5,000 o filwyr Americanaidd a thua 2,000 o filwyr MexicoMecsico, bu raid iddynt ildio o'r diwedd yn [[1886]] a daeth y [[Rhyfeloedd Apache]] i ben.
 
Cafodd y Chiricahua eu halltudio i [[Florida]], [[Alabama]], ac [[Oklahoma]], yn groes i'r termau heddwch gwreiddiol a sawl addewid. Roedd y daith drên hir i'r 434 Apache Chiricahua olaf a symudwyd i Florida, gyda Geronimo yn eu plith, yn uffernol: caewyd y drysau a'r ffenestri tryw'r holl amser, er gwaethaf y gwres llethol ac absenoldeb toiledau.
 
O'r diwedd cafodd y mwyafrif eu symud i wersyll filwrol [[Fort Sill]] yn Oklahoma tan 1913, heb hawl i'w adael, cyn iddynt gael caniatâd i ddychwelyd i Arizona. Erbyn hynny roedd eu nifer wedi lleihau yn sylweddol oherwydd afiechydon, yn arbennig yn Florida lle cawsant eu rhoi ar ''reservation'' ar ymyl [[cors]] a bu farw llawer o [[malaria|falaria]]. Gorfodwyd pob plentyn dros 11 oed i fynd i ffwrdd i ysgol breswyl arbennig lle torrwyd eu gwallt, gwisgwyd hwy mewn dillad gorllewinol a rhoddwyd enwau Americanaidd iddynt.
 
Mae rhai Chiricahua yn dal i fyw yn Oklahoma neu ar ''reservation'' y [[Mescalero]] yn New MexicoMecsico heddiw. Ychydig iawn ohonyn nhw sy'n byw yn eu hen fro yn Arizona.
 
== Llyfryddiaeth ==
[[Image:Goyathlay.jpeg|thumb|de|200px|[[Geronimo]]]]
* Castetter, Edward F.; & Opler, Morris E. (1936). ''The ethnobiology of the Chiricahua and Mescalero Apache: The use of plants for foods, beverages and narcotics''. Ethnobiological studies in the American Southwest, (Vol. 3); Biological series (Vol. 4, No. 5); Bulletin, University of New MexicoMecsico (No. 297). Albuquerque: University of New MexicoMecsico Press.
* Hoijer, Harry; & Opler, Morris E. (1938). ''Chiricahua and Mescalero Apache texts''. The University of Chicago publications in anthropology; Linguistic series. Chicago: University of Chicago Press. (Adargraffiad 1964, Chicago: University of Chicago Press; 1970, Chicago: University of Chicago Press; 1980, gan H. Hoijer, New York: AMS Press, ISBN 0-404-15783-1).
* Opler, Morris E. (1935). The concept of supernatural power among the Chiricahua and Mescalero Apaches. ''American Anthropologist'', ''37'' (1), 65-70.