Mangas Coloradas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Afghanistan i Affganistan; ond nid mewn Catss, replaced: Mexico → Mecsico (3) using AWB
nm
Llinell 6:
Yn 1846 aeth yr Unol Daleithiau i ryfel a Mecsico, a warantiodd Cenedl yr Apache saffgwndid i filwyr yr UD groesi ei thir. Ar ôl i'r UD feddiannu [[New Mexico]] yn 1846, arwyddodd Mangas Coloradas gytundeb heddwch gyda llywodraeth UDA. Ond ansefydlog oedd yr heddwch hwnnw; dechreuodd mewnfudwyr yn ceisio [[aur]] a thir aflonyddu ar yr Apache a bu ymladd rhyngddynt. Yn 1851, ger gwersyll cloddio Pinos Altos, ymosododd y mwyngloddwyr ar Mangas a'i sarhau. Dilynodd cyfres o ddigwyddiadau tebyg ac ymledodd yr ymladd. Yn Rhagfyr 1860 lawnsiodd 30 o fwyngloddwyr ymosodiad sydyn ar wersyllfa Apaches Bedonkohes ar lan [[Afon Mimbres]], gan ladd pedwar a dal 13 o ferched a phlant. Yn fuan ar ôl hynny dechreuodd Mangas ymosod ar yr ymsefydlwyr Americanaidd.
 
Priododd merch Mangas Coloradas, Dos-Teh-Seh, [[Cochise]], prif bennaeth yr apache Chokonen. Yn Chwefror 1861, daliodd yr Is-Gapten George N. Bascom Cochise, ei deulu a sawl rhyfelwr mewn magl trwy dwyll ym [[Bwlch Apache|Mwlch Apache]], [[Arizona]]. Llwyddodd Cochise i ddianc, yn ddramataidd iawn trwy dorri twll yn y babell a'i gyllell a rhedeg gan osgoi sawl bwled, ond daliwyd y lleil. Gelwir hyn y "''Bascom Affair''"; crogwyd brawd Cochise a phump o'r rhyfelwyr gan Bascom. Arweiniodd hynny at gynghrair rhwng Mangas a Cochise i yrru'r Americanwyr allan o wlad yr Apache. Ymunodd [[Juh]] a [[Geronimo]] â nhw. Er na llwyddodd yr Apache, lleihaodd poblogaeth gwyn Arizona a New Mecsico Newydd yn sylweddol oherwydd yr ymladd a'r [[Rhyfel Cartref America|Rhyfel Cartref]].
 
===Marw Mangas===
Llinell 15:
Y noson honno, arteithiwyd Mangas wrth iddo gysgu a'i saethu a'i ladd "wrth geisio dianc" (tra'n gorwedd yn anafiedig ar y llawr). Roedd Mangas yn henwr tua 70 oed ac eisoes yn dioddef o glwyf saeth gwn.
 
Y diwrnod canlynol, torrodd milwyr Americanaidd ben Mangas, ei ferwi a gyrru'r benglog i [[Orson Squire Fowler]], phrenolegydd yn [[Dinas Efrog Newydd|Ninas Efrog Newydd]]. Bu llofruddio Mangas yn y ffordd dwyllodrus yma yn fodd i waethygu'r drwgdeimlad rhwng yr Apache a'r bobl gwyn yn Arizona a New Mecsico Newydd a'r canlyniad fu rhyfel parhaol am 25 mlynedd.
 
===Gweler hefyd===