Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Carn Ingli"

Ychwanegwyd 840 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
ehangu, delwedd
B (Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q8521592 (translate me))
(ehangu, delwedd)
Bryn ym mynyddoedd [[y Preselau]] yn [[Sir Benfro]] yw '''Carn Ingli''' neu '''Mynydd Carningli'''. Saif ym [[Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro|Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro]], i'r de o [[Trefdraeth (Sir Benfro)|Trefdraeth]]. Ef yw'r pellaf i'r gogledd-orllewin o gopaon y Preselau.
 
==Olion cynhanesyddol==
Mae Carn Ingli yn nodedig am y nifer fawr o olion o [[Oes yr Efydd]] a geir ar ei lethrau, gyda gweddillion tali a [[carnedd|charnedd]] o'r cyfnod yma. Ceir hefyd fryngaer o [[Oes yr Haearn]] ar y copa, gydag olion tai (gweler isod). Ymddengys fod Carn Ingli o bwysigrwydd arbennig yn y cyfnodau hyn. Mae'r henebion hyn yn cynnwys [[Crugiau Carn Ingli|sawl crug crwn o Oes yr Efydd]].
 
==Bryngaer==
[[Delwedd:Carningli fort from Carningli common looking east - geograph.org.uk - 331090.jpg|250px|bawd|chwith|Bryngaer Carn Ingli]]
 
Mae muriau o gerrig wedi cael eu codi rhwng y creigiau ym mhen y bryn i ffurfio [[bryngaer]]. Mae'r muriau hyn yn ymestyn ar ffurf gylchog ymhell i lawr y llethrau i gyfeiriad y de-orllewin hefyd hefyd, gan amgau o'u mewn nifer o derasau.
 
Tybir gan archaeolegwyr y byddai'r gaer hon yn lloches dda i gymuned o ffermwyr lleol a ddibynnai ar gadw [[gwartheg]]; ffordd nodweddiadol [[Celtaidd|Geltaidd]] o fyw.<ref>Christopher Houlder, ''Wales: an archaeological guide'' (Faber and Faber, 1978).</ref>
 
==Hanes diweddarach==
Yn ddiweddarach, dywedir i Sant [[Brynach Wyddel|Brynach]] fyw mewn ogof ar Garn Ingli, ac i angylion ymweld ag ef yno. Er nad oes sicrwydd am y safle, efallai mai yma yr ymladdwyd [[Brwydr Mynydd Carn]] yn [[1081]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Gweler hefyd==
*[[Crugiau Carn Ingli]]
 
{{bryngaerau Cymru}}
 
[[Categori:Bryngaerau Sir Benfro]]
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Sir Benfro]]
[[Categori:Oes yr Efydd yng Nghymru]]