Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gerallt Gymro"

Lleihawyd o 3 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
B
Yn [[1188]] roedd [[Baldwin, Archesgob Caergaint]], am deithio oddi amgylch Cymru i bregethu'r [[Y Drydedd Groesgad|Drydedd Groesgad]] ac i ymweld ag [[Eglwys gadeiriol|eglwysi cadeiriol Cymru]] i ddangos eu bod dan ei awdurdod, ac fe ofynnodd i Gerallt Gymro deithio gyda fe. Ysgrifennodd Gerallt hanes y daith yn y llyfr ''Itinerarium Cambriae'' ([[Hanes y Daith Trwy Gymru]]).
 
Dechreuodd y daith yn [[Henffordd]]; aethant wedyn drwy [[DyffrynAfon Wysg|Ddyffryn Wysg]] i'r [[Y Fenni|Fenni]], ac yna trwy [[Brynbuga|Frynbuga]] i [[Caerleon|Gaerlleon]]. Aethant yn eu blaenau i eglwys gadeiriol [[Llandaf]], Abaty [[Margam]], [[Cydweli]] a [[Caerfyrddin]], [[Hendy-gwyn ar Daf]] ac wedyn eglwys gadeiriol Tyddewi. Teithio tua'r gogledd wedyn, i [[Ystrad Fflur]] a mynachlog [[Llanbadarn Fawr]] a chyrraedd y drydedd eglwys gadeiriol ym [[Bangor|Mangor]] a'r bedwaredd yn [[Llanelwy]]. Ar ddiwedd y daith dychwelodd yr Baldwin i Loegr.
 
Ar y daith roedd tua thair mil o wŷr wedi addo ymuno yn y Groesgad, ond yn y diwedd ychydig iawn a aeth.