Park House, Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Infobox building | name = Park House | image = Park House, Park Place, Cardiff.JPG | building_type = Clwb preifat; t...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 10:30, 13 Rhagfyr 2013
Adeilad rhestredig Graddfa I yng Nghaerdydd yw Park House (a alwyd hefyd yn McConnochie's House[1] a Burges House[2]). Fe'i gynlluniwyd gan y pensaer William Burges ar gyfer John McConnochie, peiriannydd o'r Alban a fu'n gweithio i Ardalydd Bute yn nociau Caerdydd. Comisiynwyd Burges ym 1871 ond ni orffenwyd addurno'r tu fewn nes i McConnochie gael ei benodi'n Faer Caerdydd ym 1880.[1] Cymlluniwyd y tŷ yn yr arddull Gothig Ffrengig, a cafodd ddylanwad mawr ar bensaernïaeth tai Caerdydd.[3] Seiliodd Burges sawl manylyn yn ei dŷ ei hun yn Llundain, Tower House yn Holland Park, ar yr adeilad hwn. Ym marn yr hanesydd pesaernïol Henry-Russell Hitchcock, Park House oedd "one of the best medium-sized stone dwellings of the High Victorian Gothic".[4] Caiff ei ddefnyddio bellach fel clwb preifat.
Park House | |
---|---|
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Clwb preifat; tŷ ynghynt |
Arddull bensaernïol | Adfywiad Gothig |
Cyfeiriad | 20 Plas y Parc, Caerdydd CF10 3DQ |
Cynllunio ac adeiladu | |
Pensaer | William Burges |
Cofrestrwyd | Graddfa I |
Cyfeirnodau
- ↑ 1.0 1.1 Crook 2013, t. 305
- ↑ (Saesneg) William Burges and Cardiff's Gothic Look. Cardiff Walking Tours. Adalwyd ar 13 Rhagfyr 2013.
- ↑ Newman 1995, tt. 218–9
- ↑ Hitchcock 1981, t. 267
Llyfryddiaeth
- Crook, J. Mordaunt (2013). William Burges and the High Victorian Dream. Llundain: Frances Lincoln.CS1 maint: ref=harv (link)
- Hitchcock, Henry-Russell (1981). Architecture: Nineteenth and Twentieth Centuries. The Pelican History of Art. Harmondsworth: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link)
- Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link)
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol.