Llanfair Waterdine: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Gweler hefyd: Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Pentref bychan yn [[Swydd Amwythig]] yw '''Llanfair Waterdine''' (Cymraeg: '''Llanfair Dyffryn Tefeidiad'''). Gorwedd ar ymyl [[Fforest Clun]] tua chwarter milltir o'r ffin â [[Cymru]]. Yn hanesyddol bu'n rhan o Gymru am gyfnod hir ac mae'n gorwedd i'r gorllewin o [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]]. Yn ogystal mae [[afon Tefeidiad]] (''Teme''), sy'n dynodi'r ffin, wedi newid ei chwrs ers cyfnod y [[Deddfau Uno]] (1536). Mae gan y pentref boblogaeth o tua 200.
Gorwedd y pentref ar y B4355,
Ceir sawl cysylltiad Cymreig. Brodor o Lanfair Waterdine oedd [[Hywel Ap Mathew]] (m. 1581), un o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]] a raddiodd yn [[Eisteddfod Caerwys 1523|Eisteddfod Gyntaf Caerwys]] (1523). Bu'r cyfrinydd a llenor [[Morgan Llwyd]] yn weithgar yno ar ddiwedd y 1630au gyda [[Walter Cradock]].
|