Westminster: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: Efrog, egin i'r gwaelod a ballu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
:''Erthygl am yr ardal yw hon. Am adeilad y senedd gweler [[Palas San Steffan]]. Am y bwrdeistref gweler [[Dinas San Steffan]]. Am y sant Cristnogol, gweler [[Sant Steffan]].''
 
'''San Steffan''' ([[Saesneg]]: ''Westminster'') yw'r enw a roddir ar ardal [[Dinas San Steffan]] yng nghanol dinas [[Llundain]]. Canolbwynt gwleidyddol [[y Deyrnas Unedig]] yw'r ardal fechan sydd wedi dwyn yr enw ers yr oesoedd canol. Yma y mae [[Senedd y Deyrnas Unedig]] yn cwrdd (ym [[Palas San Steffan|Mhalas San Steffan]]), a'r [[Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig|Goruchaf Lys]]. Crëwyd y fwrdeistref fodern llawer ehangach, ''[[Dinas San Steffan'']], ym 1900.
 
Hen enw Saesneg yr ardal yw ''Thorney Island'', o'r dyddiau pan oedd y tir yn gorsiog ac yn anaddas ar gyfer adeiladu. Cyfeiria'r enw modern ''Westminster'' at yr Abaty a'i lleolirleolir yma, ond mae'r enw Cymraeg yn cyfeirio at addoldy sydd bellach wedi'i ddinistrio. Roedd capel y palas brenhinol gwreiddiol, a'i hadeiladwyd ar gyfer [[Harri III, brenin Lloegr|Harri III]], wedi'i gysegru at [[Sant Steffan]]. Daeth y capel yma yn fan cyfarfod ar Dŷ'r Cyffredin, a dyna y bu nes i'r palas losgi i lawr ym 1834. Yn lle'r hen balas codwyd yr adeilad Fictoraidd adnabyddus, [[Palas San Steffan]].
 
Cyferbyn â Phalas San Steffan, fe geir adeilad [[Abaty San Steffan]], hen adeilad crefyddol sy'n dyddio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif a lle mae llawer o gyn-frenhinoedd a chyn-freninesau Lloegr wedi eu claddu., ynghŷd ag amryw o enwogion eraill. Hefyd yn yr ardal mae pencadlys Yr [[Heddlu]] Metropolitan yn ''[[New Scotland Yard]]'', Neuadd Ganolog y Methodistiaid a Chanolfan Cynhadledd Brenhines [[Elisabeth II o'r Deyrnas Unedig|Elisabeth II]].
 
Ar hyd [[Whitehall|Heol y Neuadd Wen]] (''Whitehall'') gerllaw ceir canolbwynt traddodiadol peirianwaith llywodraethu [[Lloegr]] a'r [[DU|Phrydain]]Deyrnas Unedig - y gweinyddiaethau (yn cynnwys y [[Trysorlys]]) a [[Stryd Downing]] lle mae'r [[Prif Weinidogion y Deyrnas Unedig|Prif Weinidog]] yn byw a gweithio. Saif y stryd yma ar safle hen balas brenhinol y Neuadd Wen, a losgodd ym 1698. Yr unig ran ohoni sydd bellach yn sefyll yw'r Tŷ Gwledda a'i cynlluniwydgynlluniwyd gan [[Inigo Jones]] ym 1622.
 
I'r gogledd mae [[Sgwâr Trafalgar]] a [[Parc Iago Sant|Pharc Iago Sant]] (''St James's Park''), i'r gorllewin mae ardal [[Gorsaf trenau Victoria, Llundain|gorsaf trenau Victoria]] a [[Palas Buckingham|Phalas Buckingham]], i'r de mae [[Pimlico]] ac i'r dwyrain dros [[afon Tafwys]] mae [[Lambeth]].