One Direction: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu ychydig
BDim crynodeb golygu
Llinell 26:
|testun10=
}}
GrpGrŵp pop o fechgyn Eingl-Wyddelig sydd wedi'u lleoli yn [[Llundain]] ydy '''One Direction''' (a adwaenir weithiau fel '''1D'''). Enwau'r aelodau yw [[Harry Styles]], [[Louis Tomlinson]], [[Niall Horan]], [[Zayne Malik]] a [[Liam Payne]]. Arwyddon nhw gytundeb gyda chwmni recordiau [[Simon Cowell]], ''[[Syco]]'', ar ôl i'r grŵp gael ei ffurfio a dod yn drydydd yn y seithfed gyfres o'r gystadleuaeth canu [[Gwledydd Prydain|Prydeinig]], ''[[X Factor]]'' yn 2010. Gan ddefnyddio pŵer [[rhwydweithio cymdeithasol]], torrodd tair albwm cyntaf y grŵp, ''"[[Up All Night (albwm One Direction)|Up All Night]]"'', ''"[[Take Me Home (albwm One Direction)|Take Me Home]]"'' a ''"[[Midnight Memories]]"'' (2013) nifer o recordiau, gan gyrraedd brig y siartiau yn y mwyafrif o wledydd gorllewinol. Cafodd y senglau ''"What make you beautiful"'', ''"Live while we're young"'' a ''"Story Of My Life"'' lwyddiant masnachol hefyd.
 
Mae eu llwyddiannau'n cynnwys dau [[Gwobr BRIT|Wobr BRIT]] a phedwar [[Gwobr Fideo Gerddorol MTV]] ymysg eraill. Yn ôl Nick Gatfield, cadeirydd a phrif weithredwr Sony Music Entertainment UK, roedd One Direction yn cynrychioli busnes gwerth $50 miliwn ym mis Mehefin 2012. Cyhoeddoedd ''[[The Huffington Post]]'' 2012 yn "The Year of One Direction".<ref>{{dyf newyddion|author=Maureen Elinzano |url=http://www.huffingtonpost.com/maureen-elinzano/one-direction-_b_1827463.html |title=2012: The Year of One Direction|work=[[The Huffington Post]]|publisher=TheHuffingtonPost, Inc.|date=24 August 2012|accessdate=8 Medi 2012}}</ref> Erbyn Ebrill 2013, amcangyfrifir fod gan y band gyfoeth personol o £25 miliwn rhyngddynt.<ref>{{Dyf gwe | url = http://www.sugarscape.com/main-topics/celebrities/851889/sunday-times-rich-list-2013-one-direction-zoom-under-30s-paul-mccartn | teitl = Sugar scape | contribution = Sunday Times’ rich list 2013, One direction, Zoom under 30, Paul McCartney}}</ref> Pan ryddhawyd ''"Midnight Memories"'', daeth One Direction y band cyntaf mewn 60 mlynedd i gael eu tri albwm cyntaf i gyrraedd brig y siart albymau Americanaidd. Yn ogystal â hyn, roedd yr albwm yn llwyddiant fyd-eang, gan gyrraedd #1 yn Siart Albymau'r DU a'r US Billboard 200. Dyma hefyd oedd yr albwm a werthodd gyflymaf yn y DU yn 2013.