Y Gwyddoniadur Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Gwyddoniadur Cymreig.JPG|300px|bawd|Cyfrol IX o'r ''Gwyddoniadur Cymreig'' (1878)]]
'''Y Gwyddoniadur Cymreig''' (neu'r '''Encyclopaedia Cambrensis''') oedd y gwaith [[gwyddoniadur]]ol mwyaf uchelgeisiol erioed yn yr iaith [[Gymraeg]]. Cafodd ei gyhoeddi mewn deg cyfrol rhwng [[1854]] a [[1879]] gan [[Thomas Gee]] ar ei wasg enwog yn nhref [[Dinbych]] ([[Gwasg Gee]]). Y golygydd cyffredinol oedd [[John Parry]] ([[1812]]-[[1874]]), brawd-yng-nghyfraith Gee a darlithydd yng [[Coleg yr Annibynwyr, Y Bala|Ngholeg]] [[Y Bala]]. Erys y cyhoeddiad mwyaf yn y Gymraeg hyd heddiw.
 
Mae'n waith anferth sy'n cynnwys bron i 9,000 o dudalennau mewn colofnau dwbl. Er bod nifer yr erthyglau sy'n ymwneud â'r [[Beibl]] a [[diwinyddiaeth]] yn sylweddol uwch nag a ddisgwylid mewn cyhoeddiad o'r fath heddiw, mae'n cynnwys yn ogystal nifer fawr o erthyglau [[bywgraffiad|bywgraffyddol]], eitemau ar [[hanes Cymru]] a [[llenyddiaeth Gymraeg]], y [[Celtiaid|gwledydd Celtaidd]], [[daearyddiaeth]] a [[gwyddoniaeth]]. Mae nifer o'r erthyglau bywgraffyddol yn dal i fod yn ddefnyddiol heddiw ac mae'r wybodaeth a geir am gyflwr [[Cymru]] yn y [[19eg ganrif]] yn wethfawr hefyd.