Ynys Dewi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 5 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q3122379 (translate me)
delwedd o greigiau
Llinell 7:
==Hanes==
Mae olion dau [[Capel|gapel]] bach, neu ddwy gell feudwy, ar yr ynys. Gerllaw y mae adfeilion [[clas]] (hen fynachlog) a sefyflwyd gan [[Defynog|Ddefynog Sant]] yn gynnar yn [[Oes y Seintiau yng Nghymru|Oes y Seintiau]]. Yn ôl traddodiad, yno y cyfarfu [[Dewi Sant]] a [[Sant Padrig]]. Darganfuwyd eirch carreg ar y safle.
[[Delwedd:Ramsey Island, basalt rock formation near Porth Lleuog - geograph.org.uk - 913661.jpg|bawd|chwith|Creigiau basalt ger Porth Lleuog.]]
 
Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i [[Sant Iestyn]] ([[Lladin]], ''Justinian'', neu ''Stian'') tua'r flwyddyn [[500]]. Meudwy o [[Llydaw|Lydaw]] oedd Iestyn. Ymsefydlodd ar yr ynys gyda'i ddisgybl Honorius a'i chwaer a'i morwyn hithau. Rhoddodd Dewi Sant dir iddo ar yr ynys ac ar y tir mawr. Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Iestyn gan ei weision gan dorri ei ben, ond cododd y sant ei ben i fyny a cherdded dros y tonnau i'r tir mawr. Gofynodd i gael ei gladdu yno; mae olion [[Capel Iestyn]] i'w gweld yno heddiw. Yn ddiweddarach dadgladdiwyd ei gorff a chafodd ei osod yn ymyl Dewi Sant yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Dywedir fod ffynnon ar Ynys Dewi i ddynodi'r llecyn lle syrthiodd pen y sant gan achosi dŵr i ffrydio o'r ddaear.