Sidney Robinson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' Roedd Sidney Robinson (6 Ionawr 1863 - 6 Rhagfyr 1956) yn wleidydd Rhyddfrydol ac yn fasnachwr coed ==Cefnd...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
 
==Gyrfa busnes==
Ym 1880, symudodd Robinson o'i gartref teuluol yng Ngwlad yr Haf i Gaerdydd i weithio yn y fasnach coed gyda chwmni John Grant & Co. Yn ddiweddarach prynodd y cwmni ac yna daeth yn bartner gyda T W David. Ail-enwyd y busnes yn Robinson, David & Co. Etholwyd ef yn Llywydd Cymdeithas Mewnforwyr Coed Môr Hafren. <ref> http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3416327/ART175 adalwyd Ion 4 2014</ref>
 
==Gyrfa wleidyddol==
 
Ym 1895 cafodd ei ethol yn aelod Rhyddfrydol o [[Cyngor Caerdydd |Gyngor Tref Caerdydd]] i gynrychioli Ward [[Sblot]]. Safodd i lawr o'r Cyngor ym 1901, ond barhaodd i fod yn weithgar yng ngwleidyddiaeth Ryddfrydol Caerdydd trwy wasanaethu fel Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol y dref <ref> http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3420956/ART188 adalwyd Ion 4 2014 </ref>. Cafodd ei ethol i Dy’r Cyffredin ar ei ymgais gyntaf i gynrychioli etholaeth [[Sir Frycheiniog (etholaeth seneddol)|Sir Frycheiniog]] yn [[Etholiad cyffredinol 1906]] a chafodd ei ail-ethol yn yr Etholiad cyffredinol canlynol.
 
Bu newid yn ffiniau etholaethau canolbarth Cymru ar gyfer etholiad cyffredinol 1918 lle unwyd etholaethau Sir Frycheiniog a [[Sir Faesyfed (etholaeth seneddol)|Sir Faesyfed]] i greu etholaeth newydd [[Brycheiniog a Sir Faesyfed (etholaeth seneddol) |Brycheiniog a Maesyfed]]. Bu ymgiprys rhwng Robertson ac AS Rhyddfrydol Maesyfed, Syr Francis Edwards ar gyfer ymgeisyddiaeth y blaid yn yr etholaeth newydd, gyda Robertson yn ennill yr enwebiad yn ddiwrthwynebiad ar ôl i Edwards tynnu allan o'r ras.
 
Cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel aelod cyntaf y sedd newydd.<ref>http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3979651/ART36 adalwyd Ion 4 2014</ref>
Ymddeolodd o'r Senedd ar adeg etholiad Cyffredinol 1922