Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 15 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1063608 (translate me)
Jed (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 65:
Roedd y ddeunawfed ganrif yn gyfnod o barhad o rai agweddau ar fywyd crefyddol a chymdeithasol y ganrif flaenorol ac, ar yr un pryd, yn gyfnod o newidiadau mawr yn y wlad, yn arbennig yn ail hanner y ganrif a osododd [[Cymru]] ar lwybr newydd gyda [[diwydiant]] yn tyfu'n gyflym a phoblogaeth y trefi'n dechrau cynyddu.
 
[[Delwedd:Richard Wilson 003- Snowdon from Llyn Nantlle - Google Art Project.jpg|200px|bawd|"[[Yr Wyddfa]] o [[Llyn Nantlle|Lyn Nantlle]]", dyfrlliw gan [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Wilson]]]]
Dyma'r ganrif pan oedd y [[Diwygiad Methodistaidd]] mewn bri gyda phobl fel [[Howel Harris]], [[William Williams Pantycelyn]] a [[Daniel Rowland]] yn arwain trwy deithio'r wlad i bregethu o flaen tyrfaoedd mawr. Cafwyd hefyd [[ysgolion cylchynol]] [[Griffith Jones]] yn y ganrif hon a dyma gyfnod gwaith [[Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol|Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]] (SPCK), yn ogystal. Erbyn diwedd y ganrif yr oedd canran sylweddol o'r boblogaeth yn [[Anghydffurfiaeth|Anghydffurfwyr]] o ryw fath, ond arhosai nifer yn ffyddlon i'r [[Eglwys Loegr|Eglwys]] yn ogystal.