Cors Ddyga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
cyfuno, tacluso
Llinell 1:
{{Infobox SSSI
[[Delwedd:Flooded track across the marshes - geograph.org.uk - 226516.jpg|250px|bawd|Cors Ddyga: llwybr dan ddŵr.]]
|name= Cors Falltraeth a Chors Ddyga
[[Cors]] yng ngorllewin [[Ynys Môn]] yw '''Cors Ddyga''' ([[Saesneg]]: ''Malltraeth Marsh'').
|image= [[Delwedd:Flooded track across the marshes - geograph.org.uk - 226516.jpg|250px240px|bawd|Cors Ddyga: llwybr dan ddŵr.]]
|image_caption= Cors Ddyga: llwybr dan ddŵr
|aos= Cymru
|interest= Bywyd gwyllt
|gridref={{gbmappingsmall|SH4460371420}}
|latitude= 53.217047
|longitude= -4.328801
|displaymap= Wales
|area= 1359.75 [[Hectr|ha]]
|notifydate=01 Ionawr 1957
|enref=
|ID=496
|cod=31WZL
}}
 
[[Cors]] yng ngorllewin [[Ynys Môn]] yw '''Cors Ddyga''' ([[Saesneg]]: ''Malltraeth Marsh''). Mae wedi'i dynodi'n [[Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig|Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru]] (SoDdGA neu ''SSSI'') ers 01 Ionawr 1957 fel ymgais [[cadwraeth|gadwraethol]] i amddiffyn a gwarchod y safle.<ref>[http://www.ccgc.gov.uk/landscape--wildlife/protecting-our-landscape/special-landscapes--sites/protected-landscape/sssis/current-sssis-in-wales.aspx?lang=cy-gb Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru');] adalwyd 25 Rhagfyr 2013</ref> Mae ei arwynebedd yn 1359.75 hectar. [[Cyfoeth Naturiol Cymru]] yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
 
==Disgrifiad==
Ar un adeg roedd Cors Ddyga yn cael ei ffurfio gan aber [[Afon Cefni]] i'r dwyrain o bentref [[Malltraeth]] ac yn ymestyn bron hyd at dref [[Llangefni]] yng nghanol yr ynys. Roedd yn gwneud teithio o'r de i'r gogledd yn rhan orllewinol yr ynys yn anodd iawn. Dechreuodd hyn newid ar ôl [[1824]], pan adeiladwyd Cob Malltraeth ac y dechreuwyd canaleiddio Afon Cefni. Heblaw sythu Afon Cefni ei hun, adeiladwyd dwy ffos fawr, un bob ochr i'r afon.
 
Trwy wneud hyn, trowyd y rhan fwyaf o'r gors yn borfa. Bu cloddio am [[glo|lo]] yma am gyfnod, a thrwy i'r tir syrthio i mewn i'r hen weithfeydd, ffurfiwyd y llynnau a elwir yn "Llynnau Gwaith-glo".
 
Mae darn sylweddol o ran ddwyreiniol Cors Ddyga yn awr yn warchodfa adar yn perthyn i'r [[RSPB]], sydd wedi gwneud llawer o waith i adfer cynefin corsiog naturiol yma. Nid yw'r warchodfa ar agor i'r cyhoedd yn swyddogol hyd yma, er bod llwynrllwybr cyhoeddus yn ei chroesi.
 
==Math o safle==
Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis [[aderyn|adar]], [[Glöyn byw|gloynnod byw]], [[madfall]]od, [[ymlusgiad|ymlusgiaid]] neu [[trychfil|drychfilod]]. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.
 
==Cyffredinol==
Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Corsydd Ynys Môn|Ddyga]]
[[Categori:Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Ynys Môn]]
[[Categori:Llwybrau Byw]]