Hedd Wyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 43:
 
== Ei fywyd a'i waith ==
Roedd Hedd Wyn yn frodor o [[Trawsfynydd|Drawsfynydd]], yn yr hen [[Sir Feirionydd]], lle cafodd ei eni yn 1887, yn fab i Mary ac Evan Evans, yr hynaf o unarddeg o blant. Cafodd ei eni yma mwthyn Penlan a symudodd y teulu fferm [[Yr Ysgwrn]] pan oedd yn 4 mis oed. Ar ôl cyfnod yn yr ysgol leol gweithiodd gartref yn [[Yr Ysgwrn]],ar fferm ei dad. Treuliodd ei fywyd yno, ac eithrio cyfnod byr iawn yn gweithio yn Nene Cymru.<ref name="Pamffled Hedd Wyn">Pamffled "Hedd Wyn". Llysednowain/Traws-Newid.</ref>
 
Barddonai o'i lencyndod a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau hyd ddyddiau cynnar [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Enillodd y wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol lleol pan oedd yn ddeuddeg oed cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn y Bala gyda'i [[awdl]] "Dyffryn" yn 1907. Dilynwyd hyn wrth iddo ennill cadeiriau yn [[Llanuwchllyn]] yn 1913, [[Pwllheli]] yn 1913, Llanuwchllyn yn 1915 a [[Pontardawe|Phontardawe]] yn 1915<ref name="Pamffled Hedd Wyn"/>. Bu hefyd yn weithgar yn cyfansoddi cerddi ac [[englyn]]ion i ddigwyddiadau a thrigolion Trawsfynydd. Rhoddwyd yr enw barddol Hedd Wyn iddo gan orsedd o feirdd [[Ffestiniog]] ar 20 Awst, 1910.