Probus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YonaBot (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
'''Marcus Aurelius Probus''' ([[19 Awst]] [[232]] - [[Medi]]-[[Hydref]] [[282]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] rhwng [[276]] a 282.
 
Ganed PribusProbus yn Sirmium, yn nhalaith [[Pannonia]], ac ymunodd a'r fyddin yn ŵr ieuanc. Daeth i sylw oherwydd ei wasanaeth dan yr ymerodron [[Valerian I]], [[Tacitus (ymerawdwr)|Tacitus]] ac [[Aurelian]]. Enwyd ef yn rhaglaw rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth gan yr ymerawdwr Tacitus, ac wedi marw'r ymerawdwr cyhoeddwyd Probus yn ymerawdwr yn ei le gan ei lengoedd. Yr oedd [[Florianus]], brawd Tacitus, wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr, ond llofruddwiyd ef gan ei filwyr ei hun, a derbyniwyd Probus fel ymerawdwr gan y [[Senedd Rhufain|Senedd]].
 
Treuliodd Probus ei deyrnasiad fel ymerawdwr yn ymladd i ddiogelu ffiniau'r ymerodraeth, yn arbennig yn nhaleithiau [[Gâl]] yn erbyn y llwythi [[Germaniaid|Almaenaidd]]. Llwyddodd i orchfygu tair ymgais i'w ddiorseddu, gan [[Saturninus]], [[Proculus]] a [[Bonosus]]. Credai Probus fod angen cadw'r milwyr yn brysur i osgoi gwrthryfela, ac felly yn amser heddwch rhoddwyd hwy ar waith i gynorthwyo'r gymuned, er enghraifft yn plannu gwinwydd yn Ngâl a Pannonia. Yn naturiol nid oedd hyn yn boblogaidd gyda'r milwyr eu hunain, a llofruddiwyd Probus gan ei filwyr ei hun tra'r oedd wrthi'n ceisio sychu corsydd gerllaw ei dref enedigol. Cyhoeddwyd Marcus Aurelius [[Carus]] yn ymerawdwr tua'r adeg yma, ond mae'n ansicr a oedd hyn cyn llofruddiaeth Probus, ac felly'n rheswm dros y llofruddiaeth, neu wedi i'r newyddion am lofruddiaeth Probus ei gyrraedd.