Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwenhwyseg"

Ychwanegwyd 1 beit ,  6 blynedd yn ôl
Gwenhwyseg yw'r unig dafodiaith Gymraeg i gadw'r ffurf hynafol ''-ws'' terfynol yn y Trydydd Person Modd Gorffennol (mae pob tafodiaith arall yn defnyddio '''-odd''' yn yr un lle). Ceir enghreifftiau o'r ffurf yma yn ''[[Y Gododdin]]'', e.e. "Gwyr a aeth Gatraeth gan wawr, Dygymyrr''ws'' eu hoed eu hanianawr" yn lle "...Dygymyrr''odd''..." ac ati.
 
== Yr ''aæ'' fain ==
{{Main|Yr A Fain}}
Un o nodweddion y Wenhwyseg yn nwyrain a chanol Morgannwg a chyn belled ã Dyffryn Afan yw'r newidiad yn y [[llafariad]] '''[[a]]''' hir i'r [[deusain|ddeusain]] '''æʌ''' e.e. "y 'Tæʌd' a'r Mæʌb' a'r Ysbryd 'Glæʌn'" yn lle "y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân". Newidir y ddeusain 'ae' yn yr un ffordd, e.e. 'Cymraeg' - 'Cymræʌg', 'traed' - 'træʌd', 'cae' - 'cæʌ'. Deusain yw hon sydd yn amrywio rhyw ychydig dros diriogaeth y Wenhwyseg (llafariad bur æ yw hi mewn rhai ardaloedd) ac nid yr un sain yw hi ag a geir mewn geiriau megis 'pen', 'pren', 'pert' ayb. Ni ddigwydd y nodwedd hon mewn geiriau unsill ag [a] fyr fel 'mam' a 'naw' fel sydd yn digwydd yn rhai o dafodieithoedd [[Maldwyn]].
Defnyddiwr anhysbys