Gwenhwyseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Tafodieithoedd y Gymraeg|Tafodiaith Gymraeg]] [[Gwent]] a [[Morgannwg]] yw '''y Wenhwyseg'''. Daw'r enw o'r term ar hen drigolion yr ardal, ''y Gwennwys''. Roedd yn cael ei siarad o [[Abertawe]] yn y gorllewin i [[Trefynwy|Drefynwy]] yn y dwyrain. Mae'r dafodiaith hon yn dechrau dod yn brinnach oherwydd twf yr iaith [[Saesneg]] yn yr ardal ac am fod iaith [[Cymraeg]] safonol y De yn cael ei sylfaenu ar y [[Dyfedeg|Ddyfedeg]] yn ysgolion Cymraeg y De.
Mae sawl nodwedd yn dangos y gwahaniaeth rhwng Gwenhwyseg fel y'i siaredid yng nghanol a dwyrain Morgannwg a Chymraeg safonol: defnydd o eiriau lleol, yr ''æ'' fain, caledu'r [[cytsain]] (b, d, g) o dan rai amgylchiadau penodol, prinder ''ch'' ar ddechrau gair ac ymwrthod a'r ffonem ''h'' oni ddynodir pwyslais, sylweddoli ''ae'' ac ''au'' gan ''a'' yn y sillaf olaf a bod y 'frawddeg annormal' yn norm yn rhai o is-dafodieithoedd y Wenhwyseg.
 
== Geiriau a ffurfiau lleol ==
Llinell 36:
 
== Caledu'r cytsain yng nghanol geiriau ==
Mae calediad yn nodwedd amlwg o'r Wenhwyseg ond nid yr un geiriau a galedir ym mhob tafodiaith. Gellir bod yn nodwedd gryfach mewn un ardal nag un arall er bod yr un amodau cyd-destunol priodol yn bodoli ynddynt.
Yn y Gymraeg safonol, mae'r [[treiglad meddal]] yn meddalau'r cytsain yng nghanol gair. Ond yn y Wenhwyseg ceir sŵn mwy caled yng nghanol llawer o eiriau.
 
{| border="1" class = "wikitable"
!Gair Gwenhwyseg!!Gair Safonol