Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwenhwyseg"

Ychwanegwyd 9 beit ,  6 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
{{Cymraeg}}
[[Tafodieithoedd y Gymraeg|Tafodiaith Gymraeg]] [[Gwent]] a [[Morgannwg]] yw '''y Wenhwyseg'''. Daw'r enw o'r term ar hen drigolion yr ardal, ''y Gwennwys''. Roedd yn cael ei siarad o [[Abertawe]] yn y gorllewin i [[Trefynwy|Drefynwy]] yn y dwyrain. Mae'r dafodiaith hon wedi colli tir yn sylweddol hyd at ddifancoll oherwydd twf yr iaith [[Saesneg]] yn yr ardal a bod y Cymry wedi troi cefn arni ac yn fwy ddiweddar am fod iaith [[Cymraeg]] safonol y De yn cael ei sylfaenu ar gymraegGymraeg gorllewinol y [[Ddyfedeg|Ddyfedeg]] yn ysgolion Cymraeg y De-ddwyrain.
Mae sawl nodwedd yn dangos y gwahaniaeth rhwng Gwenhwyseg fel y'i siaredid yng nghanol a dwyrain Morgannwg a Chymraeg safonol: defnydd o eiriau lleol, yr ''æ'' fain, caledu'r [[cytsain]] (b,d,g) o dan rai amgylchiadau penodol, prinder ''ch'' ar ddechrau gair ac ymwrthod a'r ffonem ''h'' oni ddynodir pwyslais, sylweddoli ''ae'' ac ''au'' gan ''a'' yn y sillaf olaf a bod y 'frawddeg annormal' yn norm yn rhai o is-dafodieithoedd y Wenhwyseg.
Defnyddiwr anhysbys