Benito Mussolini: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Stryn (sgwrs | cyfraniadau)
rvv
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
B Yn dileu "Fasces_Mussolini-Hitler_mark.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Fastily achos: commons:Commons:Deletion requests/Files in Category:1941 stamps of Germany.
Llinell 22:
Fel ''Il duce'' roedd ei lywodraeth yn mwynhau cefnogaeth boblogaidd ar y dechrau. Cyflwynodd raglenni o waith cyhoeddus, gosododd drefn ar y wlad yn dilyn anhrefn ac ansicrwydd y cyfnod ôl-Ryfel, a adferodd freintiau'r [[Eglwys Gatholig Rufeinig]]. Dyma'r dyn "a wnaeth y trenau redeg ar amser". Cododd sawl adeilad a chofeb rhwysgfawr yn yr arddull [[Neo-Glasuriaeth|Neo-Glasurol]], wedi'u ysbrydoli gan 'fawredd' yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Ond roedd yn llawdrwm iawn ar unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol hefyd a dioddefodd nifer o Eidalwyr am eu daliadau dan ei lywodraeth a chreulondeb brwnt y Crysau Duon.
 
 
[[Delwedd:Fasces Mussolini-Hitler mark.jpg|200px|bawd|chwith|"Dwy bobl, un ymdrech": Mussolini a Hitler ar [[stamp]] Almaenig.]]
Ceisiodd ymestyn grym yr Eidal a sefydlu ei hawdurdod yn Affrica. Anfonodd fyddin i oresgyn [[Ethiopia]] yn 1935. Yn 1936 ffurfiodd gynghrair gydag [[Adolf Hitler]] a'r [[Natsïaid]] a alwyd yn Echel Rhufain-Berlin. Yn 1939 cipiodd [[Albania]] a phan dorrodd yr [[Ail Ryfel Byd]] allan cyhoeddodd ryfel yn erbyn [[Y Deyrnas Unedig|Prydain]] a [[Ffrainc]] ym Mehefin 1940. Ond roedd y rhyfel yn drychinebus i'r Eidal a chafwyd colledion mawr yng [[Libya]], [[Horn Affrica]] a [[Gwlad Groeg]]. Pan oresgynodd y Cynghreiriaid ynys [[Sisili]] yn 1943, gorfodwyd Mussolini i ymddeol o rym gan Gyngor Mawr y Blaid Ffasgaidd. Ffoes o Rufain i ogledd yr Eidal lle sefydlodd weriniaeth [[ffasgaidd]] newydd dan nawdd yr Almaenwyr. Cafodd ef a'i fistres [[Clara Petacci]] eu dal gan y partisanwyr a'u dienyddio. Crogwyd eu cyrff mewn sgwar ym [[Milan]] cyn eu claddu. Roedd unbennaeth Mussolini ar ben.