Wicipedia:Pwll tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Pen pwll tywod - peidiwch â dileu'r llinell hon os gwelwch yn dda.}}
'''Ōkami''' (大神 yn [[Siapaneg]]; golygir 'duw mawr' neu 'ysbryd mawr'; yn seinegol golygir 'blaidd' (狼)) ydy gêm antur ar gyfer y [[Playstation 2|PS2]] a'r [[Wii]]. Mae hi wedi ei gosod rhywbryd yn ystod hanes clasurol [[Siapan]] ac mae'r gêm yn cyfuno elfennau o chwedlau a llên gwerin Siapanëaidd er mwyn cyfleu stori am achub y wlad rhag dywyllwch. Y prif gymeriad yw Amaterasu; duwies yr Haul yng nghrefydd [[Shinto]] Siapan, sydd yn cymryd ffurf [[blaidd|fleiddiast]] wen.
==Teitl==
 
==Y Gêm==
Yn Ōkami mae'r chwaraewr yn rheoli'r fleiddiast Amaterasu. Mae'r prif stori yn linellol ond gyda sawl cwest opsiynol trwyddi; er enghraifft cewch fwydo anifeiliaid gwylltion ac adfywio coed meirw gan ddefnyddio brws wybrennol. Mae gan y brws hwn sawl bwrpas yn y gêm: creu gwynt; galw'r haul i dywynnu; torri coed a chreigiau; rheoli dŵr, tân, mellt a rhew; arafu amser ayyb. Gellir caffael y technegau brws trwy gwblhau [[cytser]]au a ysbrydolwyd gan y [[Sidydd]] [[Tseina|Tseineaidd]].
 
==Cymeriadau==
* '''Amaterasu''' (天照) neu ''Ammy'' - Prif gymeriad Ōkami. Hi yw duwies yr haul wedi'i hymgnawdoli ar ffurf fleiddiast wen.
* '''Shiranui''' (白野威) - Ymgnawdoliad blaenorol Amaterasu, hefyd ar ffurf fleiddiast, can mlynedd cyn ddechrau stori'r gêm.
* '''Waka''' (ウシワカ) - Proffwyd sydd yn ymyrryd â chwestau Amaterasu.
* '''Issun''' (一寸) - Artist a chydymaith i Amaterasu sydd â diddordeb mewn casglu technegau'r brws wybrennol.
* '''Orochi''' (大蛇) - Sarff ag wyth pen sydd yn un o'r brif elynion yn Ōkami.
 
[[Categori:Gemau fideo]]