Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pádraig Pearse"

Ychwanegwyd 2,514 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
No edit summary
(ehangu)
[[Image:Patrick Pearse.jpg|bawd|200px|Pádraig Pearse]]
Roedd '''Pádraig Pearse''' neu '''Patrick Henry Pearse''' yn athro ysgol, bardd a chenedlaetholwr Gwyddelig, sy'n fwyaf adnabyddus am ei ran yng [[Gwrthryfel y Pasg|Ngwrthryfel y Pasg]] yn 1916.
 
Roedd '''Pádraig Pearse''' neu '''Patrick Henry Pearse''', [[Gwyddeleg]]: Pádraig Anraí Mac Piarais [[10 Tachwedd]], [[1879]] - [[3 Mai]], [[1916]]) yn athro ysgol, bardd a chenedlaetholwr Gwyddelig, sy'n fwyaf adnabyddus am ei ran yng [[Gwrthryfel y Pasg|Ngwrthryfel y Pasg]] yn 1916.
{{eginyn}}
 
Roedd Pearse yn rhoi pwyslais mawr ar yr iaith Wyddeleg, a theimlai mai'r ffordd i achub yr iaith oedd trwy addysg. Dechreuodd ei ysgol ddwyieithog ei hun, [[Ysgol Sant Enda]] (''Scoil Éanna'') yn [[Ranelagh]], [[Swydd Dulyn]], yn 1908, gyda chymorth [[Thomas MacDonagh]] a'i frawd [[Willie Pearse]].
 
Yn 1913 gwahoddwyd ef i gyfarfod cyntaf y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (''Irish Volunteers''), ac yn
1914 daeth yn aelod o'r ''Irish Republican Brotherhood'', mudiad tanddaearol oedd yn anelu ar weriniaeth annibynnol yn Iwerddon. Ar [[1 Awst]], [[1915]], traddododd Pearse anerchiad enwog yng nghynhebrwng y [[Feniad]] [[Jeremiah O'Donovan Rossa]]. Gorffennodd yr araith gyda'r geiriau enwog:
 
:''The Defenders of this Realm have worked well in secret and in the open. They think that
:they have pacified Ireland. They think that they have purchased half of us and intimidated
:the other half. They think that they have foreseen everything, think that they have
:provided against everything; but, the fools, the fools, the fools! — They have left us
:our Fenian dead, and while Ireland holds these graves, Ireland unfree shall never be
:at peace.''
 
Dechreuodd Gwrthryfel y Pasg ar [[24 Ebrill]], [[1916]], gyda Pearse un un o'r prif arweinyddion. Ef a ddarllenodd y ddogfen oedd yn cyhoeddi ffurfio gweriniaeth Iwerddon Rydd ar risiau Swyddfa'r Post yn Nulyn. Wedi i'r gwrthryfelwyr gael ei gorfodi i ildio ar ôl dyddiau o frwydro, rhoddwyd ef ar ei brawf gan y fyddin Brydeinig a saethwyd ef yng Ngharchar Kilmainham ar 3 Mai gyda [[Thomas Clarke]] a [[Thomas MacDonagh]], y cyntaf o'r gwrthryfelwyr i'w dienyddio. Saethwyd ei frawd Willie ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.
 
Mae ei hen ysgol, Ysgol Sant Enda yn Rathfarnham, yn awr yn amgueddfa. Mae Pearse yn un o arwyr
[[Taoiseach]] presennol Iwerddon, [[Bertie Ahern]], ac mae ganddo ddarlun o Pearse uwchben y ddesg yn ei swyddfa.
 
 
[[Categori:Genedigaethau 1879]]
[[Category:Marwolaethau 1916]]
[[Category:Hanes Iwerddon]]
 
[[ca:Patrick Pearse]]
[[cy:Pádraig Pearse]]
[[de:Patrick Pearse]]
[[en:Patrick Pearse]]
[[es:Patricio Pearse]]
[[fr:Patrick Pearse]]
[[ga:Pádraig Mac Piarais]]
[[ko:패트릭 피어스]]
[[hr:Patrick Pearse]]
[[is:Patrick Pearse]]
[[it:Patrick Pearse]]
[[nl:Patrick Pearse]]
[[ja:パトリック・ピアース]]
[[no:Pádraig Pearse]]
[[pl:Patrick Pearse]]
[[fi:Patrick Pearse]]
37,236

golygiad