Panasen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
geirdarddiad
cyfs
Llinell 16:
}}
 
Llysieuyn o deulu'r [[carotsen|garotsen]] neu'r [[moronen|foronen]] yw '''panasen''' ([[Lladin]]: ''Pastinaca sativa'') lluosog "Pannas". Yng Nghymru, ceir cofnod ohoni'n dyddio yn ôl i gyfnod y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeiniad]]. Yn ôl y [[gwyddoniaeth|gwyddonwyr]] mae hi'n perthyn hefyd i deulu'r [[seleri|helogen]] (neu seleri), [[persli]] a [[ffenel]]. Caiff ei thyfu er mwyn ei gwreiddiau gwyn, hir, sy'n fwytadwy.<ref>Geiriadur y Brifysgol; Rhan III; tudalen 2680.</ref>
 
Cyn dyfodiad y [[betysen|fetysen siwgr]] defnyddwyd hi i wneud [[siwgr]] ac mae rhai'n honni bod gwin panasen yn debyg i [[Madeira]]. Fe'u bwyteir gan amlaf wedi'i rhostio, neu fel greision tenau, neu'n stwns. Mae'r dail yn cynnwys cemegyn ffotosensitif. Yn aml iawn drysir pobl o ddwyrain [[Ewrop]] lle bwyteir gwreiddyn persli, sy'n debyg iawn o ran ei golwg, ond nid o ran ei blas. Bwydir pannas i anifeiliad yn yr Eidal, Ffrainc a gwledydd eraill. Yr enw [[llydaweg]] arni yw ''Panazenn'', (Llydaweg Canol) ''panesenn''; lluosog ''Panez''.
 
==Geirdarddiad==
Benthyciad o'r [[Ffrangeg]] ''"panais"'' yw "pannas". Enwau eraill arni yw '''Llysiau Gwyddelig''' neu '''Foron gwynion'''. Cofnodir y gair "Pannas" am y tro cyntaf yn Gymraeg yn 1672 (TW Penniarth 228) yng Ngeiriadur Syr Thomas Wiliems. Yn ne-ddwyrain Morgannwg defnyddiwyd y gair "Pannws" (T. Jones; Alm 51; 1704). Defnyddid y gair, tan yn ddiweddar, hefyd i olygu 'cweir' neu 'gurfa'.
 
==Gweler hefyd==
Llinell 27:
* [[Pannas y dŵr]] - ''''Sium. latifolium''
* [[Pannas gwylltion]] (neu Pannas y Moch) - ''Pastinaca sativa''
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[en:Parsnip]]