Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "John Evans (I. D. Ffraid)"

Ychwanegwyd 6 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
B
 
==Bywgraffiad==
Ganwyd John Evans yn y Tŷ Mawr [[Llansanffraid Glan Conwy]] ar 23 Gorffennaf 1814 yn fab hynaf i David Evans, siopwr, a Grace (neé Roberts) ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys y plwyf ar 27in o'r un mis. <Ref> Cofnodion bedydd plwyf Llansanffraid blwyddyn 1814 rhif 54(yng ngofal Archifdy Sir Ddinbych)</ref>. O ran ei alwedigaeth roedd yn ddyn busnes pur llwyddianus a daeth yn weinidog gyda'r [[Methodistiaid Calfinaidd]] (er na fu'n weinidog ar gapel erioed). Daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel cyfieithydd ''[[Paradise Lost]]'' [[John Milton]] (''[[Coll Gwynfa]]'', 1865).<ref name="Cydymaith"/> Roedd hwn yn llyfr dylanwadol iawn yn ei gyfnod a ysbardunodd sawl bardd i gyfansoddi cerddi ar y [[Canu rhydd|mesur moel di-odl]].<ref>D. Ambrose Jones, ''Llenyddiaeth a Llenorion Cymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'' (Lerpwl, 1922), tud. 89.</ref>
 
Cefnogai'r ymgyrch dros [[rhyddid addoliad|ryddid addoliad]] ac ysgrifenodd gyfres hir o dros 500 o lythyrau ar hyn a phynciau eraill dan y llysenw "Adda Jones" a gyhoeddwyd yn ''[[Baner ac Amserau Cymru]]'' rhwng 1869 ac 1874.<ref name="Cydymaith"/>