Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "John Evans (I. D. Ffraid)"

Ychwanegwyd 560 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
Priododd am y tro cyntaf ar y 9fed o Dachwedd 1836 ag Ann Williams a bu iddynt chwech o blant. Bu farw Ann ym 1850. Fe briododd am yr ail waith a Hanna (1812-1896) ym 1853.<ref> [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3452164/ART51 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau yn Y Cymro 11 Mehefin 1896] adalwyd 19 Chwef 2014</ref>
 
Bu farw ar 4ydd Mawrth 1875 yn ei gartref yn Llansanffraid Glan Conwy a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys y plwyf<ref> Cofrestr Claddu Llansanffraid Glan Conwy tudalen 39 Rhif 311(yng ngofal Archifdy Sir Ddimbych)</ref>. Cafwyd tanysgrifiad cenedlaethol o dan arweinyddiaeth Thomas Gee i godi cofadail ar ei fedd.<ref> [The late I D Ffraid yn y Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshire, and North Wales Journal 19 Mawrth 1875 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3288116/ART20] adalwyd 19 Chwef 2014</ref>
 
==Bywyd Cyhoeddus==
Daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel cyfieithydd ''[[Paradise Lost]]'' [[John Milton]] (''[[Coll Gwynfa]]'', 1865).<ref name="Cydymaith"/> Roedd hwn yn llyfr dylanwadol iawn yn ei gyfnod a ysbardunodd sawl bardd i gyfansoddi cerddi ar y [[Canu rhydd|mesur moel di-odl]].<ref>D. Ambrose Jones, ''Llenyddiaeth a Llenorion Cymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'' (Lerpwl, 1922), tud. 89.</ref>