Ifor Rees (awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

awdur
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jonbonjela (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '== Ifor Rees == Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees. Ganwyd yn 1921 yn Glasgow lle roedd ei dad yn gweithio fel saer ym...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:51, 6 Mawrth 2014

Ifor Rees

Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees. Ganwyd yn 1921 yn Glasgow lle roedd ei dad yn gweithio fel saer ym mhorthladdau’r ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd ei deulu i Fynydd Bach, Abertawe pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Tirdeunaw, ac yna Ysgol Ramadeg Abertawe a Choleg y Brifysgol Abertawe lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, daeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin.

Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym Mangor fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni am wledydd eraill a bu’n arloeswr yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys Groeg, Twrci, Denmarc a Dwyrain yr Almaen.

Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Efe oedd cyfansoddwr ac awdur y gân enwog ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’.

Bu farw yn 2004 yn 82 oed.

Llyfryddiaeth

Peidiwch â Sôn (1973)

Dilyn Afon (1977)

Crwydro Clawdd Offa (1979)

Bro a Bywyd T.H. Parry Williams (1981)

Bro a Bywyd Cynan (1982)

Gwgwrus (1983)

Ar Glawr (1983)

Siwrneio (1990)

Dŵr o Ffynnon Felin Bach (1995)

Gwŷr Llên Cwm Tawe (1995)