Ifor Rees (awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jonbonjela (sgwrs | cyfraniadau)
Jonbonjela (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 4:
Ganwyd yn 1921 yn Glasgow lle roedd ei dad yn gweithio fel saer ym mhorthladdau’r ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd ei deulu i Fynydd Bach, Abertawe pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Tirdeunaw, ac yna Ysgol Ramadeg Abertawe a Choleg y Brifysgol Abertawe lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, daeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin.
 
Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym Mangor fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni am wledydd eraill alle bu’n arloeswr yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys Groeg, Twrci, Denmarc a Dwyrain yr Almaen.
 
Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Efe oedd cyfansoddwr ac awdur y gân enwog ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’.