Ailgylchu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: Man olygu using AWB
gh
Llinell 5:
 
Hyd ail hanner yr [[20fed ganrif]], roedd y rhan fwyaf o'r hyn a deflid i ffwrdd fel sbwriel yn cael rhoi mewn tomennydd sbwriel. Erbyn hyn, mae cyfran ohono yn cael ei ail-ddefnyddio. Gellir ail-ddefnyddio rhai eitemau fel y maent, neu gellir ail-ddefnyddio rhannau ohonynt. Weithiau, mae'r sbwriel yn cael ei droi yn ddefnydd arall. Caiff deunyddiau ar gyfer eu hailgylchu eu gadael mewn canolfan ailgylchu megis banciau ailgylchu mewn archfarchnadoedd neu mewn gorsafoedd trosglwyddo gwastraff a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol, neu eu casglu o'r pafin a'u cludo i ganolfan sortio lle caiff y gwahanol ddeunyddiau eu gwahanu, eu glanhau a'u hanfon i gael eu prosesu ar gyfer creu deunydd newydd.
[[Delwedd:Byd yn eich Poced, Y (llyfr).jpg|bawd|chwith|Llyfr ar wastraff ac ailgylchu; 2008]]
 
Tra bod ailgylchu yn golygu bod llai o wastraff yn cael ei gladdu mewn tomenni ailgylchu ac yn arbed defnyddio deunydd crai ychwanegol i greu cynnyrch o'r newydd, mae'r broses o ailgylchu ei hun yn gallu defnyddio llawer o ynni. Mewn rhai achosion felly, gellir dadlau bod ailgylchu sbwriel yn defnyddio mwy o ynni na chreu nwyddau o'r newydd.
Llinell 16 ⟶ 17:
== Ailgylchu yng Nghymru ==
Yng Nghymru, rhedir cynlluniau ailgylchu gan Lywodraeth Leol, gyda'r drefn yn wahanol ym mhob sir. Cefnogir hyn gan grantiau achlysurol gan Lywodraeth y Cynulliad. Er enghraifft, derbyniodd cyngor Merthyr Tudful grant o £100,000 yn 2009 er mwyn annog trigolion y sir i ailgylchu, a galluogi'r cyngor i gasglu deunydd o nifer fwy o gartrefi.<ref>{{dyf gwe| url=http://new.wales.gov.uk/news/topic/sustainable/2009/090313recycling/?skip=1&lang=cy| teitl=Grant £100,000 yn rhoi hwb i ailgylchu ym Merthyr Tudful| cyhoeddwr=Llywodraeth Cynulliad Cymru| dyddiad=13 Mawrth 2009}}</ref>
 
==Gweler hefyd==
*[[Y Byd yn eich Poced]]
 
== Cyfeiriadau ==