Sabino Arana: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ganed ef yn [[Abando]], [[Bilbao]]. Dysgodd yn iaith [[Basgeg|Fasgeg]] fel gŵr ieuanc, a gwnaeth lawer o waith i geisio safoni'r orgraff. Bu farw yn [[Sukarrieta]] yn 38, o ganlyniad i glwyf Addison, a gafodd tra yng ngharchar. Roedd wedi ei garcharu am yrru neges i Arlywydd yr [[Unol Daleithiau]], [[Theodore Roosevelt]], yn ei ganmol am gynorthwyo [[Ciwba]] i ddod yn annibynnol ar [[Sbaen]].
 
===SyniadauDyfyniadau o waith Sabino Arana===
 
“Nid wyf yn mynnu dim byd imi fy hun, yr wyf yn ei mynnu er mwyn Bizkaia; byddwn yn gadael iddyn nhw dorri fy nghorn gwddf â chyllell nid unwaith ond canwaith heb ofyn hyd yn oed cof i’m enw, os gwyddwn mai atgyfodi fy mamwlad a ddilynai.”
''El Juramento de Larrázabal'', 1893
 
 
“Elfen anhepgor i genedl y Basgiaid yw’r Euskara, hebddi hi mae ein sefydliadau yn annychmygol.”
1886
 
 
“Mae ’na wahaniaeth ethnograffig rhwng bod yn Sbaenwr a bod yn Fasgwr, mae’r hil Fasgaidd yn hollol wahanol i’r hil Sbaenaidd.”
''Bizkaitarra'', nº 11
 
 
“Mae’r rhai sy’n adnabod y Jeswitiaid yn gwybod bod cenedlaetholdeb Basgaidd yn gwbl Gatholig.”
''El Correo Vasco'', 1899
 
 
“Daeth gyda’r goresgyniad maketo… annuwioldeb, pob math o anfoesoldeb, cabledd, trosedd, rhydd-feddwl, anghrediniaeth, sosialaeth, anarchiaeth… ei waith ef yw hyn i gyd.”