Thomas Clarke: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) interwici |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Roedd '''Thomas James Clarke''' ([[Gwyddeleg]]: Tomás Ó Cléirigh; [[11 Mawrth]] [[1857]] – [[3 Mai]] [[1916]]) yn genedlaetholwr Gwyddelig ac yn un o brif ysgogwyr [[Gwrthryfel y Pasg]] yn [[1916]].
Yn 1915 ffurfiodd Clarke a [[Seán Mac Diarmada]] bwyllgor o fewn yr IRB i drafod cynlluniau ar gyfer gwrthryfel. Dywedir mai'r bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi Clarke yn Arlywydd y Weriniaeth, ond gwrthododd ef, ac felly aeth y teitl i [[Padraig Pearse]]. Pan ddechreuodd y gwrthryfel yn Ebrill 1916, roedd Clarke, fel un o'r prif arweinwyr, yn Swyddfa'r Post yn Nulyn. Wedi i'r gwrthryfelwyr ildio ar [[29 Ebrill]], daliwyd Clarke yng [[Carchar Kilmainham|Ngharchar Kilmainham]] hyd [[3 Mai]], pan saethwyd ef gan y Fyddin Brydeinig. Ef oedd yr ail o'r arweinwyr i'w saethu, ar ôl Pearse. Etholwyd ei weddw, Kathleen, i'r Dail cyntaf a'r ail yn ddiweddarach.
|