Decius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: sk:Décius
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 11:
Bu Decius yn ymladd yn erbyn y [[Gothiaid]] oedd wedi croesi Afon Donaw ac ymosod ar rannau o Moesia a [[Thracia]]. Yr oedd y Gothiaid yn gwarchae dinad [[Nicopolis]] ar lan Afon Donaw. Pan glywsant fod byddin Rhufain yn dynesu, croesasant y mynyddoedd i ymosod ar Filiopolis. Dilynodd Decius hwy, ond wedi iddo golli brwydr ger Beroë llwyddodd y Gothiaid i gipio Filiopolis.
 
Yr oedd y Gothiaid wedi colli llawrllawer o'u milwyr wrth gipio Filiopolis, a chynigiasant adael y ddinas heb gymeryd caethian nac ysbail os gadawai'r Rhufeiniaid lonydd iddynt. Fodd bynnag yr oedd Decius wedi llwyddo i'w hamgylchynu, a gwrthododd y cynnig. Ym mrwydr Attrio y Gothiaid a gafodd y fuddugoliaeth, a lladdwyd yr ymerawdwr a'i fab ar faes y gad. Enwodd y Senedd yn Rhufain fab ieuengaf Decius, [[Hostilian]], fel ymerawdwr, ond cyhoeddodd llengoedd Afon Donaw [[Trebonianus Gallus]] yn ymerawdwr.